Back

Dynamix: Matilda Jr.

***Mae archebu tocynnau ar-lein bellach wedi cau ar gyfer y digwyddiad hwn.***Bydd tocynnau dal ar gael i’w prynu wrth y drws (gwerthiannau arian parod yn unig) o’n swyddfa docynnau dros dro sydd bellach ar agor ym mhrif fynedfa’r castell. Gellir casglu eich bandiau arddwrn o'r swyddfa docynnau dros dro.

Drysau 4.00pm

HYRWYDDIR AR Y CYD GAN MWLDAN + CASTELL ABERTEIFI |

A MWLDAN + CARDIGAN CASTLE CO-PROMOTION

Mae Ysgol Celfyddydau Perfformio Dynamix nôl!! Maen nhw wrth eu bodd yn dod â Matilda, Sioe Fawr y West End i Gastell Aberteifi yn haf 2022! Mae’r stori’n dilyn clasur Roald Dahl am yr hynod alluog Matilda Wormwood wrth iddi ddechrau ei bywyd ysgol i ffwrdd o’i rhieni creulon ac o dan ofal yr hoffus Miss Honey a'r ofnadwy Miss Trunchbull! Ymunwch â Matilda ynghyd â holl fyfyrwyr Ysgol Celfyddydau Perfformio Dynamix am noson o adloniant i bawb. Yn llawn dop o ddawnsiau egnïol a chaneuon bachog, caiff plant ac oedolion fel ei gilydd eu syfrdanu gan stori'r ferch fach arbennig gyda dychymyg anghyffredin.

£10 Oedolyn / £8 Plentyn 

Dynamix

Top