Back

Dr Phil Hammond: Dr Hammond’s Covid Inquiry / How I Ruined Medicine (14+)

Hanner cyntaf - Dr Hammond’s Covid Inquiry (50mins)

Mae Rheolwr Gyfarwyddwr Private Eye ac awdur poblogaidd Dr Hammond's Covid Casebook yn mynd ati i ddadansoddi'r pandemig. Mwya i gyd sicr mae rhywun am Covid, yna lleia i gyd y dylech ymddiried ynddo. Ydyn ni'n gwybod beth a lwyddodd a beth aeth o’i le? A allem fod wedi ei atal? Pam fod barn arbenigwyr mor wahanol? Allwch chi ymddiried mewn arweinydd sy'n codi ofn ar y boblogaeth tra ei fod yntau’n mwynhau ei hun mewn partïon? A ddylem ni fod wedi efelychu Sweden? Neu Taiwan? Ydy brechlynnau wedi ein hachub? A fyddwn ni'n fwy caredig i anifeiliaid a phlant? A yw pandemigau yma i aros? A allwn ni anghytuno heb gasáu? Rhybudd. Gall gynnwys olion o amheuaeth, tosturi, hiwmor, awgrym a dwli llwyr.

Ail hanner - How I Ruined Medicine (50 mins)

Cyffesiadau syfrdanol chwythwr chwiban y GIG sy'n ymddeol. Roedd bod yn feddyg yn arfer bod fel Stryd Downing. Meddwon anatebol crand yn gweithio oriau gwirion, yn gwneud camgymeriadau, eu cuddio a’u hwfftio. Yna, fe wnes i rannu fy marn a difetha’r cwbl. Am 37 mlynedd rydw i wedi gweithio yn y GIG ac wedi datgelu ei gyfrinachau tywyllaf. Mae’n dal i fod prinder peryglus o staff yn y GIG ac mae’n llawn problemau, ond nawr mae pawb yn gwybod hynny. Rydw i wedi cynhyrchu byddin o reoleiddwyr, cyfreithwyr a chleifion a chanddynt ormod o wybodaeth sy'n mynnu gofal rhagorol mewn gwasanaeth sy'n chwalu. Rhaid i chi hyd yn oed gwybod beth rydych chi'n ei wneud a'i brofi. Pa mor hurt yw hynny? Comedi.

£15 ( £12 gweithwyr NHS)

If Dr Phil were a medicine, you should swig him by the litre
The Times
One of the most entertainingly subversive people on the planet
The Guardian
Better than the Public Enquiry - and quicker and cheaper
Ian Hislop
Canllaw oed: 14+, yn cynnwys iaith gref a themâu aeddfed.

Browse more shows tagged with:

Top