Back

Cyngerdd Dathlu 40 Fflach

 

HYRWYDDIR GAN: FFLACH

Noson i ddathlu penblwydd Cwmni Recordio Fflach, Aberteifi yn 40 oed. Yn cymeryd rhan bydd rhai o artistiaid blaenllaw Cymru- Catsgam, Gwilym Bowen Rhys, Delwyn Sion, Einir Dafydd gydag ymddangosiad arbennig gan Frenhines Byd Enwog y Delyn Deires Llio Rhydderch.

Noson hefyd a fydd yn deyrnged i'r diweddar Richard a Wyn Jones, y ddau frawd a fu'n gyfrifol am gychwyn Cwmni Fflach, ac a gyfrannodd cymaint i'r Byd Adloniant Cymraeg.

Cyflwynydd y noson bydd y Cynhyrchydd a Chyflwynydd Radio Richard Rees. Ei raglen radio 'Sosban' yn ystod y 70au a'r 80au oedd yn bennaf gyfrifol am ddod a'r Byd Pop Cymraeg i'r amlwg.

Bydd elw'r noson yn mynd tuag at Ymchwil Cancr.

 

£15 (£13)

Browse more shows tagged with:

Top