Back

Catrin Finch and Aoife Ní Bhriain (2024)

CYNHYRCHIAD Y MWLDAN

Mae Aoife Ní Bhriain, sy’n hanu o Ddulyn, yn un o ffidlwyr traddodiadol blaenaf Iwerddon ac yn feiolinydd clasurol o statws rhyngwladol sy’n feistrolgar ym maes cerddoriaeth glasurol a cherddoriaeth ei threftadaeth draddodiadol Wyddelig. Ar draws Môr Iwerddon, ar arfordir gorllewinol Cymru, mae’r delynores Catrin Finch hefyd wedi adeiladu gyrfa glasurol drawiadol ac wedi mentro i dir cerddorol newydd, yn fwyaf nodedig trwy ei chydweithrediadau gwobrwyedig.

MaeDouble You, eu halbwm cyntaf fel deuawd, a ryddhawyd ar 27ain Hydref 2023 ar label bendigedig - yn cynnwys casgliad celfydd o gyfansoddiadau newydd sy’n tynnu ysbrydoliaeth o genres amrywiol, gan dywys gwrandawyr ar daith hudolus ar adenydd y gwenyn ar draws Môr Iwerddon ac mae wedi'i ysbrydoli gan ddiwylliannau eu dwy wlad.

Yn rhedeg trwy eu straeon - fel unigolion creadigol, menywod nodedig, a nawr fel deuawd ysbrydoledig - mae themâu cyffredinol hunaniaeth, hunangred a'r dewrder i ddod o hyd i chi’ch hun a dilyn eich llwybr eich hun. 

£22

Top