Back

Cantorion o Fri

 

HYRWYDDIR AR Y CYD GAN MWLDAN + CASTELL ABERTEIFI 

Drysau 6.30pm

 

Mae archebu tocynnau ar-lein bellach wedi cau ar gyfer y digwyddiad hwn. Bydd tocynnau dal ar gael i’w prynu wrth y drws (gwerthiannau arian parod yn unig) o’n swyddfa docynnau dros dro sydd bellach ar agor ym mhrif fynedfa’r castell. Gellir casglu eich bandiau arddwrn o'r swyddfa docynnau dros dro hefyd.

 

Mwynhewch strafagansa gerddorol wych yng nghwmni rhai o leisiau gorau Cymru wrth iddynt rannu ffefrynnau mawr o fyd poblogaidd theatr gerdd ac opera.

Gyda’i nodau uchel esgynnol a’i swyn hawdd, mae galw mawr am y tenor Trystan Llŷr Griffiths fel artist cyngerdd ac mae’n prysur wneud ei farc ar lwyfan opera rhyngwladol.

Mae Shân Cothi yn bersonoliaeth Gymreig, yn berfformwraig amryddawn ym maes theatr glasurol a theatr gerdd ac yn actores, cyflwynydd teledu a radio poblogaidd tu hwnt.

Gyda dros 15 miliwn yn gwylio ar-lein, mae Welsh of the West End wedi creu tipyn o gynnwrf ar-lein, yn diddanu cynulleidfaoedd gyda fersiynau syfrdanol o glasuron theatr gerdd. Maen nhw'n grŵp mawreddog gyda pherfformwyr yn dod o sioeau fel Les Miserables, Phantom of the Opera, a Wicked.

 

£25

Top