Back

BREABACH with support from VRï

Gyda cefnogaeth gan VRÏ

Mae lle cadarn gan Breabach ymhlith actau gwerin cyfoes mwyaf medrus a dychmygus yr Alban. Maen nhw’n uno gwreiddiau dwfn yn nhraddodiad yr Ucheldiroedd a’r Ynysoedd gyda berwcerddorol arloesol eu canolfan yn Glasgow.

Mae eu hantur dros 17 mlynedd wedi cynnwys perfformiadau byw o Dŷ Opera Sydney i Central Park, Efrog Newydd. Maen nhw wedi ennill llu o anrhydeddau gan gynnwys pum Gwobr Scots Trad Music, enwebiadau ar gyfer y ‘Grŵp Gorau’ yng Ngwobrau Gwerin BBC Radio 2 ac ‘Albwm y Flwyddyn Ewrop’ yng Ngwobrau Cylchgrawn Songlines. Ar hyn o bryd, mae’r band hefyd wedi’u henwebu ar gyfer y Grŵp Gorau yng ngwobrau BBC Scotland Trad sydd i’w penderfynu ym mis Rhagfyr 2022.

Nid yw Breabach yn dangos unrhyw arwydd o arafu eu hymdrechion creadigol gyda theithiau ar fin digwydd ac ymddangosiadau mewn gwyliau ledled y DU, Ewrop a’r Unol Daleithiau i nodi rhyddhau eu 7fed albwm stiwdio ‘Fàs’ a gynhyrchwyd gan y cerddor enwog Inge Thompson (Karine Polwart, Hen Hoose, Northern Flyway).

Mae cydnabod a pharchu tarddiadau’r gerddoriaeth maen nhw’n ei chwarae a hefyd gwreiddiau’r band tra’n croesawu’r dyfodol gyda syniadau newydd, egni a chred yn briodoledd allweddol i’r band ac mae wedi parhau’n thema gyson ar hyd eu 17 mlynedd.

Breabach yw; Megan Henderson (Ffidl, Llais, DawnsStepio), James Lindsay (Bas Ddwbl, Llais), Calum MacCrimmon (Bagbibau, Chwiban, Bouzouki, Llais), Conal McDonagh (Bagbibau, Chwiban, Llais) ac Ewan Robertson (Gitâr, Llais, Cajon ).

£16 (£15) 

★★★★
Exhilarating, energetic and accomplished
Songlines
★★★★★
Matching fiery intensity with exquisite finesse
The Scotsman

Browse more shows tagged with:

Top