Back

Ballet Theatre UK: Beauty and the Beast (2022)

 

Ymunwch â Ballet Theatre UK ar gyfer cyflwyniad o un o'r straeon serch mwyaf hudolus erioed: Beauty and the Beast.

Wedi'i ysbrydoli gan y stori wreiddiol, mae'r cynhyrchiad hwn yn adrodd stori Belle, merch ifanc hardd a deallus sy'n teimlo allan o'i lle yn ei phentref Ffrengig taleithiol. Pan mae ei thad yn cael ei garcharu mewn castell dirgel, mae Belle yn mynd ati i’w achub ond yn cael ei chipio gan y Bwystfil, anghenfil erchyll ac ofnadwy. Nid oes unrhyw syniad ganddi mai Tywysog wedi'i felltithio gan Ddewines hudol ydyw. Yr unig ffordd y gall y Bwystfil droi’n ddynol eto yw os yw'n dysgu caru a chael ei garu yn ôl. Mae'r felltith a osodwyd gan y Ddewines wedi'i rhwymo gan rosyn hudol. Os bydd y petal olaf yn cwympo bydd pob gobaith yn cael ei golli a bydd yn aros fel Bwystfil am byth. Mae eu teimladau’n tyfu’n ddyfnach byth wrth i'r cloc dicio a phetalau barhau i syrthio - a fyddant yn cyfaddef eu cariad at ei gilydd cyn ei bod hi'n rhy hwyr?

 

Wedi'i osod i sgôr glasurol syfrdanol bydd y cynhyrchiad hwn yn arddangos coreograffi newydd gan y Cyfarwyddwr Artistig, Christopher Moore a setiau a gwisgoedd pwrpasol.

 

£18 (£16) (£10)

Browse more shows tagged with:

Top