Back

AL LEWIS (2024)

Canwr/cyfansoddwr dwyieithog o Gymru yw Al Lewis.

Mae ei albwm diweddaraf ‘Fifteen Years’ yn archwilio themâu cyffredinol galar ac iacháu trwy brofiad Lewis ei hun o ddod i delerau o’r diwedd â cholli ei dad tra’n gobeithio helpu eraill mewn sefyllfaoedd tebyg.

Mae wedi rhyddhau sawl albwm, wedi ennill Cân ac Albwm Gorau yng Ngwobrau Americana y DU (fel rhan o Lewis & Leigh); wedi ei enwebu ar gyfer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig ac mae ei albymau i gyd wedi treulio sawl wythnos yn #1 yn y siartiau Cymreig.

Mae Al wedi perfformio mewn digwyddiadau eiconig fel Glastonbury, Gŵyl Gerdd Americana Nashville, Gŵyl Werin Philadelphia, Gŵyl Lorient (Llydaw) a Celtic Connections yn Glasgow.

Mae ei sengl ddiweddar ‘The Farmhouse’ yn ymwneud â’r effaith y mae perchnogaeth ail gartrefi yn ei chael ar gymunedau gwledig ledled Cymru. Cafodd ei henwebu ar gyfer y 'Gân Wreiddiol Orau' yng Ngwobrau Gwerin Cymru 2023.

Sengl Al ‘A Child’s Christmas in Wales’ sy’n seiliedig ar stori Nadolig Dylan Thomas, oedd y gân gyntaf i’w chanu yn Gymraeg i gyrraedd rhestr chwarae BBC Radio 2.

Roedd ei albwm ‘Te yn y Grug’ yn ddarn corawl gwerin cysyniadol, a pherfformiwyd deunydd ohono am y tro cyntaf fel rhan o sioe gerdd hynod lwyddiannus o’r un enw yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2019 y gwerthwyd pob tocyn ar ei chyfer.

£14 (£12)

Browse more shows tagged with:

Top