Back

The Adventures of Sherlock Holmes

Cyflwynir gan Black RAT Productions a Sefydliad y Glowyr, Coed Duon

Comedi newydd sbon (gyda chaneuon!) ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd gan Richard Tunley gyda cherddoriaeth gan Kieran Bailey

Mae'r tîm oedd yn gyfrifol am gyflwyno The Invisible Man yn ôl, gyda fersiwn hynod ddoniol o gampau ditectif enwog Syr Arthur Conan Doyle.

Wedi'i seilio'n fras ar y straeon clasurol, dyma i chi stori ddirgelwch Sherlock ar ei newydd gwedd!

Pan mae cyfres o droseddau erchyll yn digwydd yn Llundain oes Fictoria, rhaid i Sherlock Holmes a'i gyfaill ffyddlon, Doctor Watson, ddatrys y dirgelion sydd ynghlwm wrth yr anfadrwydd brawychus er mwyn achub Prydain Fawr a hyd yn oed y Frenhines Fictoria ei hun. 

Ond pwy sy'n gyfrifol am y drygau ofnadwy hyn?

Ac a fydd ein deuawd deinamig yn achub y dydd?

Yn ôl arddull nodweddiadol Black RAT, mae'r cast o bedwar unigolyn llawn egni yn dod â chymeriadau cyfarwydd o'r straeon am Sherlock yn fyw yn y sioe newydd sbon hon – yn llawn antur, chwerthin a chaneuon gwych.

Caneuon? Ie, dyna ni. Oeddech chi'n gwybod bod Sherlock yn gallu bloeddio baled roc neu ddwy, neu fod Dr Watson yn gallu cystadlu â Michael Bublé?

Dyma sioe haerllug a sionc, felly gallwch chi ddisgwyl syrpreisys hurt, dyfeisgarwch theatrig gwych, a thro newydd ar hynt a helynt y ditectif gorau erioed.

Elementary!

Wedi'i gefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru

 

Canllaw oedran: awgrymir 11+

 

£14 (£12)

Browse more shows tagged with:

Top