Back

Abbey Shakespeare Players - Julius Caesar

Julius Caesar

gan William Shakespeare

Mae pobl Rhufain yn croesawu Caesar yn ol i’r ddinas ar ol iddo fe drechu ei elynion mewn rhyfel cartref gwaedlyd. Ond mae’r seneddwyr, a ranodd y grym yn y weriniaeth, yn ofni ei fod e eisiau rheoli fel unben. Maen nhw’n creu cynllwyn peryglus i’w ddymchwel – gan selio eu dynged eu hunain ar yr un pryd.

‘What can be avoided whose end is purposed by the mighty gods?’ 

Mae drama Shakespeare yn hanes arweinwyr carisamtig, cynllwynio gwleidyddol a thorfeydd anwadal sy’n hollol gyfarwydd yn ngleidyddiaeth ei amser e ac ein hamser ni hefyd. Bydd yr Abbey Shakespeare Players yn pwysleisio’r atseiniau modern hynny mewn cynhyrchiad bywiog, tyn a chignoeth.

Ar ol toriad annisgwyl ac unigryw yn 2020, hwn fydd y 34ydd cyhyrchiad blynyddol gan yr Abbey Shakespeare Players. Gyda chaniatad caredig y perchennog, byddwn ni’n perfformio eleni yn ngardd Pen y Star, drws nesa i Abaty Llandudoch.

£10 (£8)

Bydd y niferau’n gyfyngedig, a bydd rhaid prynu tocynnau ar lein o flaen llaw. Dylai pobl ddod a’u cadeiriau neu rygiau eu hunain a’u gosod mewn ‘bubbles’ ar wahan, gan fod yn barod i roi manylion cyswllt ar gyfer Test and Trace. Mae hwn yn gynhyrchiad awyr agored, felly gwisgwch yn dwym os gwelwch yn dda.

Top