Back

WESTLIFE - LIVE FROM WEMBLEY STADIUM (12A AS LIVE)

Bydd Westlife, y grŵp a werthodd y mwyaf o albymau yn y DU yn yr 21ain ganrif, yn darlledu eu sioe gyntaf erioed o Stadiwm Wembley. 

O Stadiwm Wembley dan ei sang, y sioe ysblennydd hon fydd eu sioe fwyaf a’u sioe fwyaf hanesyddol hyd yn hyn! Gydag 20 mlynedd o ganeuon mawr, 14 record sengl sydd wedi cyrraedd rhif 1 yn y DU a dros 55 miliwn o recordiau wedi’u gwerthu ledled y byd, bydd Westlife yn cyflwyno noson na ddylai unrhyw ffans ei cholli. Byddant yn perfformio eu holl ganeuon o’u taith hirddisgwyledig Wild Dreams, gan gynnwys ‘Uptown Girl’, ‘Flying Without Wings’, ‘You Raise Me Up’ ac ‘If I Let You Go’. Mae’r Gwyddelod golygus Shane, Nicky, Mark a Kian yn gwahodd ffans ymhobman i ddod at ei gilydd yn eu sinema leol a rhannu’r profiad byw bythgofiadwy hwn, yn agos atoch ac yn bersonol.

£17 (£15)

Mae “Westlife - Live from Wembley Stadium” yn cynnwys dilyniant o oleuadau sy'n fflachio

a allai effeithio ar gwsmeriaid sy'n dioddef o epilepsi ffotosensitif

1 awr 40 munud

Top