Back

ROH: TURANDOT (12A AS LIVE)

The Royal Opera DARLLEDIAD BYW

Yn llys y Dywysoges Turandot, mae cariadfeibion sy'n methu â datrys ei phosau hi yn cael eu lladd yn greulon. Ond pan mae Tywysog dirgel yn ateb un yn gywir, yn sydyn fe sy'n dal yr holl rym - a chyfrinach wych. Pan mae bywyd yn y fantol, a all cariad trechu’r cyfan?

Mae sgôr Puccini yn llawn rhyfeddodau cerddorol (yn cynnwys yr aria enwog ‘Nessun dorma’), tra bod cynhyrchiad Andrei Serban yn tynnu ar draddodiadau theatrig Tsieineaidd i greu tableau ffantasi lliwgar o Peking hynafol. Antonio Pappano sy'n arwain Anna Pirozzi yn y brif ran ac Yonghoon Lee fel Calaf.

£17 (£16)

3 awr & 20 munud (Yn cynnwys dau egwyl)

Browse more shows tagged with:

Top