Back

ROH: La Traviata (12A)

ROYAL OPERA HOUSE

Mae Paris y 19eg ganrif yn lle sy’n llawn cyferbyniadau; hudoliaeth ac arwynebolrwydd, cariad a chwant, bywyd a marwolaeth. Mae’r butain llys Violetta yn canu rhai o ariâu mwyaf clodwiw Verdi gan gynnwys y gorfoleddus ‘Semper libera’ yn ei chyfarfyddiadau ingol ac angerddol ag Alfredo a Germont. Yn ddiweddar, dathlodd cynhyrchiad Richard Eyre ar gyfer The Royal Opera 25 mlynedd ar lwyfan y Tŷ Opera Brenhinol ac eleni mae’n dychwelyd gyda’r seren opera glodwiw Pretty Yende fel Violetta.

£17 (£16)

Browse more shows tagged with:

Top