Back

ROH: LA BOHÈME (12A AS LIVE)

The Royal Opera DARLLEDIAD BYW

Paris, 1900. Mae Rodolfo’r awdur tlawd yn credu mai celf yw'r cyfan sydd ei angen arno - nes iddo gwrdd â Mimì, y wniadwraig unig sy'n byw i fyny'r grisiau. Dyma ddechrau stori serch tragwyddol sy'n blodeuo, yn gwywo, ac yna’n ailgynnau wrth i’r tymhorau fynd heibio. Ond tra bod ffrindiau’r pâr, Marcello a Musetta yn ffraeo’n angerddol ac yn cymodi, mae grym mwy na chariad yn bygwth Rodolfo a Mimì.

Mae cynhyrchiad Richard Jones yn gwneud i ni feddwl am wrthgyferbyniadau trawiadol o Baris fin de siècle, o fflatiau Bohemaidd i rodfeydd disglair.

£17 (£16)

2 Awr 50 Munud (yn cynnwys dau egwyl)

Browse more shows tagged with:

Top