Back

ROH: DAS RHEINGOLD (2023) (12A AS LIVE)

Mae’r cyfarwyddwr Barrie Kosky yn ymuno â'r arweinydd Antonio Pappano mewn gwedd newydd hyderus o bennod gyntaf cyfres y Cylch gan Wagner. Pan mae celc gwerthfawr o aur yn cael ei ddwyn o afon Rhein, mae cadwyn o ddigwyddiadau dinistriol yn cychwyn, gan osod duwiau a dynion yn erbyn ei gilydd am genedlaethau i ddod. Mae Cylch Wagner yn cynnwys rhywfaint o’r gerddoriaeth orau a gyfansoddwyd erioed ar gyfer llwyfan yr opera. Ymunwch â ni ar wrth i ni gychwyn ar daith ryfeddol i fyd chwedlau, breuddwydion a chof, gyda chymeriad Erda – y Fam Ddaear ei hun – yn ganolog. Mae’r cynhyrchiad newydd llawn cyffro hwn yn nodi dechrau cyfres newydd o’r Cylch i’r Royal Opera – gyda chast ardderchog sy’n cynnwys Christopher Maltman (Wotan) a Christopher Purves (Alberich). 

Cenir yn Almaeneg gydag is-deitlau Saesneg. 

£17 (£16)

Bydd y perfformiad hwn yn para tua 2 awr ac 20 munud heb unrhyw egwyl.


Browse more shows tagged with:

Top