Back

ROH: THE BARBER OF SEVILLE (12A AS LIVE)

The Royal Opera DARLLEDIAD BYW

Pan mae Rosina yn syrthio mewn cariad â chariadfab ifanc dirgel sy’n galw ei hun yn Lindoro, rhaid iddi ddefnyddio ei holl gyfrwystra – ac ychydig o help gan ei barbwr lleol – i drechu ei gwarcheidwad craff Dr Bartolo.

Disgwyliwch serenadau torcalonnus, cuddwisgoedd chwerthinllyd a diweddglo hudol. O gân agoriadol enwog y barbwr ‘Largo al factotum,’ gyda’i gri o ‘Figaro! Figaro!,’ i aria nerthol Rosina ‘Una voce poco fa,’ mae opera gomig Gioachino Rossini yn ddigwyddiad difyr tu hwnt. Mae Rafael Payare yn ymddangos am y tro cyntaf gyda’r Royal Opera House gan arwain cast rhyngwladol rhagorol sy’n cynnwys Andrzej Filończyk, Aigul Akhmetshina, Laurence Brownlee a Bryn Terfel.

£17 (£16)

Browse more shows tagged with:

Top