Back

NT Live: STRAIGHT LINE CRAZY (12A As Live)

 

drama newydd gan David Hare

cyfarwyddwyd gan Nicholas Hytner

 

Ralph Fiennes (Antony & Cleopatra) sy’n arwain y cast yn hanes cyffrous David Hare (Skylight) am y dyn mwyaf pwerus yn Efrog Newydd, hen law ar drin pobl, y newidiodd ei etifeddiaeth y ddinas am byth.

Ers deugain mlynedd yn ddi-dor, bu Robert Moses yn ymelwa ar y rheiny mewn grym trwy gymysgedd o swyn a braw. Wedi'i ysgogi i ddechrau gan benderfyniad i wella bywydau gweithwyr Dinas Efrog Newydd, aeth ati i greu pontydd, parciau a thraffordd 627 milltir ei hyd i gysylltu'r bobl â'r awyr agored.

Gyda gwrthwynebiad gan grwpiau protest sy'n ymgyrchu dros syniad gwahanol iawn o'r hyn y dylai'r ddinas fod, a fydd gwendid democratiaeth yn cael ei amlygu yn wyneb ei argyhoeddiad carismatig ef?

Wedi'i darlledu'n fyw o Theatr y Bridge yn Llundain, Nicholas Hytner sy'n cyfarwyddo'r ddrama newydd gyffrous hon.

 

£12.50 (£11.50)

Ni fydd mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith yn y digwyddiad hwn.

Browse more shows tagged with:

Top