Back

NT Live: The Book of Dust – La Belle Sauvage (12A As Live)

Gan Philip Pullman 

Addaswyd gan Bryony Lavery 

Cyfarwyddwyd gan Nicholas Hytner 

Wedi’i osod ddeuddeng mlynedd cyn y drioleg epig His Dark Materials, mae’r addasiad gafaelgar hwn yn ailedrych ar fyd rhyfeddol Philip Pullman lle mae dyfroedd yn codi a stormydd yn corddi. Mae dau berson ifanc a'u ‘dæmons’, gyda phopeth yn y fantol, yn cael eu hunain yng nghanol helfa ddychrynllyd. Yn eu gofal mae plentyn bach o'r enw Lyra Belacqua, ac yn y plentyn hwnnw ceir tynged y dyfodol. Ac wrth i'r dyfroedd godi o'u cwmpas, mae gwrthwynebwyr pwerus yn cynllwynio i feistroli Llwch: iachawdwriaeth i rai, ffynhonnell llygredd anfeidrol i eraill. Ddeunaw mlynedd ar ôl ei gynhyrchiad arloesol o His Dark Materials yn y National Theatre, mae'r cyfarwyddwr Nicholas Hytner yn dychwelyd i fydysawd cyfochrog Pullman. Wedi'i darlledu'n fyw o’r Bridge Theatre, Llundain.

£13.50 (£12.50)

Browse more shows tagged with:

Top