Back

MATTHEW BOURNE'S SWAN LAKE (PG AS LIVE)

Mae Swan Lake Matthew Bourne yn dychwelyd i sinemâu ac mae ‘mor fentrus a hardd ag erioed’ (★★★★★ Telegraph). Efallai bod y cynhyrchiad gwefreiddiol, beiddgar a ffraeth hwn yn dal i fod yn fwyaf adnabyddus am ddisodli'r corps-de-balet benywaidd gydag ensemble gwrywaidd bygythiol, gan chwalu confensiwn, troi traddodiad wyneb i waered a gwefreiddio’r byd dawns. Gan gadw elfennau eiconig y llwyfaniad gwreiddiol, sy’n annwyl i filiynau o bobl ledled y byd, mae Matthew Bourne a’r dylunwyr gwobrwyedig Lez Brotherston (Set a Gwisgoedd) a Paule Constable (Goleuadau) wedi creu ailddychmygiad ‘cyfareddol’ (★★★★★★ Independent) o’r cynhyrchiad clasurol hwn gan New Adventures. Wedi’i ffilmio’n fyw yn Theatr Sadler’s Wells, Llundain yn 2019, mae Swan Lake Matthew Bourne yn serennu Will Bozier fel yr Alarch/Y Dieithryn, Liam Mower fel y Tywysog a Nicole Kabera fel y Frenhines. Mae dehongliad pwerus Matthew Bourne o stori hoffus Tchaikovsky wedi casglu dros ddeg ar hugain o wobrau rhyngwladol gan gynnwys Gwobr Olivier a thri Tony ar Broadway, ‘mae’n dal i fod yn wreiddiol, mae’n dal i fod yn hanfodol ei weld.’ (★★★★★★)

£17 (£16)

Browse more shows tagged with:

Top