Back

Kinky Boots: The Musical (12A)

Mae Kinky Boots The Musical, a ffilmiwyd yn fyw yn yr Adelphi Theatre yng nghanol West End Llundain yn camu’n falch i’r sgrin fawr! Gyda chaneuon gan yr eicon pop Cindy Lauper sydd wedi ennill gwobrau Grammy a Tony, llyfr gan ddramodydd enwog Broadway Harvey Fierstein (La Cage Aux Folles), a chyfarwyddo a choreograffi gan Jerry Mitchell (Legally Blonde, Hairspray), mae'r sioe gerdd yn seiliedig ar y ffilm a ysgrifennwyd gan Geoff Deane a Tim Firth. Wedi'i hysbrydoli gan ddigwyddiadau go iawn, mae'r llwyddiant enfawr hwn yn adrodd hanes dau unigolyn nad oes ganddyn nhw unrhyw beth yn gyffredin - neu felly maen nhw'n meddwl. Perchennog ffatri yw Charlie (Killian Donnelly) sy'n brwydro i achub ei fusnes teuluol, a diddanwr gwych gyda syniad cyffrous tu hwnt yw Lola (Matt Henry). Gydag ychydig o dosturi a llawer o ddealltwriaeth, mae'r pâr anghyffredin hwn yn dysgu i groesawu eu gwahaniaethau a chreu math o stiletos cadarn sy’n wahanol i unrhyw beth mae'r byd wedi ei weld o’r blaen! Ond yn y diwedd, eu cyflawniad mwyaf aruthrol yw eu cyfeillgarwch. Dyma i chi ddigwyddiad theatr gerdd na ellir ei golli sy’n dathlu stori orfoleddus am ddewrder a phenderfyniad Prydeinig ac yn ei droi’n llwyddiant ysgubol wrth iddo eich tywys o lawr ffatri yn Northampton i ‘catwalks’ ysblennydd ym Milan! 

£16 (£15)

Browse more shows tagged with:

Top