Back

HEATHERS: THE MUSICAL (15 AS LIVE)

Paratowch am lawer o hwyl a sbri –  bydd Heathers the Musical, sioe lwyfan hynod lwyddiannus y West End yn dod i sinemâu ar draws y wlad.

Yn seiliedig ar y ffilm gwlt glasurol o 1989 gyda Winona Ryder a Christian Slater, ac wedi’i recordio’n fyw yn ei chartref gwreiddiol yn Llundain, The Other Palace, mae'r sioe gerdd wobrwyedig hon yn dilyn Veronica Sawyer, myfyrwraig yn Ysgol Uwchradd Westerberg, y mae ei breuddwydion am boblogrwydd yn cael eu gwireddu o’r diwedd pan mae tair Heather hardd, ond rhyfeddol o greulon yn ei chymryd hi dan eu hadain. Ond pan mae’r rebel ifanc llawn dirgel JD yn dod i’r dref, mae Veronica’n sylweddoli efallai ei bod hi’n beth diflas bod yn anweledig ond mae bod yn boblogaidd yn beryglus tu hwnt...

Yn ddoniol iawn, gyda llyfr, cerddoriaeth a geiriau gwych gan gyfansoddwr Legally Blonde, a enwebwyd ar gyfer Gwobr Tony, sef Laurence O’Keefe, ac awdur Reefer Madness a’r enillydd Gwobr Emmy, Kevin Murphy, cyfarwyddir Heathers The Musical gan y cyfarwyddwr sgrin a llwyfan clodwiw Andy Fickman, gyda choreograffi trydanol gan Gary Lloyd o Thriller Live.  

£14 (£12) 

Browse more shows tagged with:

Top