Back

An American In Paris: The Musical (PG)

Mae'r sioe gerdd Broadway hynod brydferth hon sydd wedi ennill Gwobr Tony, ac sydd wedi'i hysbrydoli gan y ffilm MGM a enillodd Oscar yn adrodd stori angerddol am ddod o hyd i gariad yn ‘Ninas y Goleuni’. Milwr o America yw Jerry Mulligan sy’n ymdrechu i lwyddo fel arlunydd mewn dinas sydd yn sydyn yn llawn gobaith a phosibilrwydd. Ar ôl cwrdd ar hap â dawnswraig ifanc hardd o'r enw Lise, mae strydoedd Paris yn gweithredu fel cefndir i ramant fodern deimladwy o gelf, cyfeillgarwch a chariad wedi rhyfel. Gyda cherddoriaeth gain a geiriau George ac Ira Gershwin (gan gynnwys y caneuon poblogaidd, Wonderful and I Got Rhythm), dyluniadau syfrdanol, a choreograffi anhygoel, fe osodwyd record gan y cynhyrchiad gwych hwn pan dderbyniodd 28 o adolygiadau pum seren gan y beirniaid.

£16 (£15)

Browse more shows tagged with:

Top