Back

Alaw Haf James PORTHMON

Rydym yn parhau â’n haf o arddangosfeydd dros dro gyda ffotograffau gan Alaw Haf James a raddiodd yn ddiweddar.

Meddai James: ‘Rwyf wedi byw ar fferm ar hyd fy oes, ac wedi tyfu i fyny ymhlith byd natur, da byw a bwrlwm peiriannau. Mae gallu tynnu ffotograffau o’r tir a rhannu’r eiliadau bach hynny rwy’n cael gweld yn ddyddiol yn rhywbeth rwyf wrth fy modd yn ei wneud. Rwy’n ffermwr, yn ffotograffydd ac yn artist o Geredigion yn Ne-orllewin Cymru ac mae fy nghefndir mewn amaethyddiaeth wedi cael dylanwad mawr arnaf erioed, sydd i’w weld trwy gydol llawer o fy ngwaith.

Mae ‘Porthmon’ yn gyfres sy’n cynnwys ffotograffau du a gwyn, darluniau a dogfennau sy’n edrych yn ôl ar hanes porthmyn Cymru a datblygiad eu proffesiwn i’r hyn ydyw erbyn heddiw.

Bydd agoriad ddydd Gwener 12 Awst am 5pm, mae mynediad am ddim ac mae croeso i bawb ddod i gwrdd â’r artist a gweld y gwaith.

Bydd yr arddangosfa ar agor o'r 12fed i'r 25ain o Awst.

@alawhafjames

Browse more shows tagged with:

Top