Gwirfoddoli a Profiad Gwaith
Sgroliwch i lawr am fwy o wybodaeth

Gwirfoddoli a Phrofiad Gwaith gyda Lleisiau Eraill Aberteifi a'r Mwldan
Gwirfoddoli i'r Mwldan:
‘Mae'r Mwldan yn lle unigryw ac arbennig, trwy wirfoddoli gobeithio y gallaf helpu i'w gadw fel hynny. Mae'n fraint cael y cyfle i roi yn ôl i'r gymuned.
Mae sioeau’r Mwldan yn gymysgedd eclectig o adloniant, fel gwirfoddolwr gobeithio y gallaf gefnogi’r ased gwych hwn i’r gymuned mewn ffordd fach. Trwy wirfoddoli rwy'n teimlo'n rhan o dîm cyfeillgar, proffesiynol, ymroddedig.'
Ydych chi’n frwdfrydig am y celfyddydau ac mewn cefnogi’r gwaith a wnawn? Ydych chi am wneud gwahaniaeth i’r gymuned sy’n gartref i chi a chyfarfod â phobl debyg? Yna pam na ymunwch â’n tîm o wirfoddolwyr yn y Mwldan? Mae gwirfoddolwyr pob amser wedi bod - ac yn parhau i fod - yn rhan hanfodol o ddatblygiad a threfniant dyddiol y Mwldan a’i sin diwylliannol.
Dros y blynyddoedd mae’r gefnogaeth i’r theatr wedi mynd o nerth i nerth. Mae ein tîm blaen tŷ presennol yn cynnwys staff cyflogedig a nifer o wirfoddolwyr o bob cefndir, pob oed ac o bob ardal o gwmpas Aberteifi, sy’n garedig iawn yn rhoi o’u hamser i gynnal amrywiaeth o rolau. Ni allwn weithredu hebddynt ac mae ‘na bob amser le am un arall!
Nodir os gwellwch yn dda - bydd rhaid bod yn oedran 16+i gwirfoddoli yma.
Pam gwirfoddoli?
I ddysgu mwy am wirfoddoli, lawr lwythwch ffurflen gais trwy glicio yma, neu casglwch un o’n Swyddfa Docynnau a’i dychwelyd at:
Rheolwr Blaen Tŷ, Theatr Mwldan, Heol Bath House, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1JY.
Profiad Gwaith
Rydym yn derbyn llawer mwy o geisiadau am leoliadau profiad gwaith na fedrwn eu derbyn, felly cysylltwch â ni cyn gynted ag y mae’n bosibl os oes gennych ddiddordeb mewn treulio eich cyfnod profiad gwaith yma.