Yr Haf yn y Castell
Mae Mwldan a Chastell Aberteifi yn cyflwyno cyfres gyffrous o ddigwyddiadau awyr agored byw dros wyliau’r haf.
Sgroliwch i lawr am fwy o wybodaeth

Haf o gerddoriaeth, theatr a sinema awyr agored
Safle'r Eisteddfod Genedlaethol gyntaf, agorodd Castell Aberteifi ei drysau i'r cyhoedd yn 2015, ar ôl cael ei adnewyddu’n hyfryd. Ers hynny mae’r Mwldan a’r Castell wedi cydweithio mewn partneriaeth i gyflwyno cyfres o gyngherddau awyr agored arbennig o gerddoriaeth, theatr a sinema awyr agored ar y safle hanesyddol anhygoel hwn sy’n eistedd yn falch uwchben yr Afon Teifi.
2025
Yr Haf yn y Castell 2025
Mae'r cwmni theatr awyr agored gwobrwyedig Illyria wedi bod yn ymwelwyr cyson â ni am y rhan orau o 33 mlynedd! Mae'r cwmni anhygoel hwn yn denu canmoliaeth gyson gan feirniaid, ac mae wedi ennill enw da o ragoriaeth heb ei ail.
Eleni maent yn dod â HMS Pinafore, clasur Jane Austen, Pride and Prejudice, a ffefryn teuluol The Wind in The Willows atom.
Mae tocynnau theatr awyr agored Illyria ar gyfer haf 2025 ar werth nawr!
Mwldan yw'r unig leoliad ar gyfer y cyngherddau hyn. Cysylltwch â'n swyddfa docynnau i archebu.
boxoffice@mwldan.co.uk