The Salt Path (12A)
Yn Dangos
31 Aws - 4 Med
Nesaf
Llun 01 Med 7:15 yh
Tocynnau
Tocynnau a gostyngiadau
£8.40 (Adult / Oedolion)
£7.70 (Senior 60+ / Pobl 60+)
£7.70 (Disabled / Anabl)
£7.70 (Job Seeker / Income Support)
£7.70 (Full Time Student 15+ / Myfyrwyr Llawn Amser 15+)
£5.90 (Children (14 and under) / Plant (14 ac yn is))
£5.90 (TMFS £5.90 )
Ffioedd Archebu'n Berthnasol
Beth yw hwn?Mae pris yr holl docynnau yn cynnwys TAW ac yn amodol ar ffi archebu o 10% (sydd hefyd yn cynnwys TAW) lle bo’n berthnasol (Mae ffioedd archebu wedi’u cyfyngu i uchafswm o £3 y cart)
Marianne Elliott | UK | 2025 | 115’
Gillian Anderson a Jason Isaacs yw sêr y ddrama ysbrydoledig hon am daith drawsnewidiol un pâr mewn portread o golled, dynoliaeth ac ailenedigaeth. Mae Ray sydd dros ei hanner cant a'i gŵr Moth yn dysgu bod ganddo salwch angheuol ac ar yr un pryd yn colli eu cartref a'u bywoliaeth oherwydd amgylchiadau anorchfygol. Maen nhw'n gwneud y penderfyniad byrbwyll i gerdded Llwybr Arfordir y De-orllewin sy'n 630 milltir o hyd, gyda phabell rad, sachau cysgu tenau a bach iawn o arian. Nodyn amserol i’n hatgoffa ein bod ni i gyd gam i ffwrdd o sefyllfa debyg, ac y bydd systemau toredig yn methu pobl yn y pen draw.
Sain Ddisgrifio a Sain Atgyfnerthu
Isdeitlau
.jpeg&w=3840&q=75)
Ein Sgriniau Sinema
Rydym yn cynnig un o’r rhaglenni sinema fwyaf yng Nghymru gyda dros 2,500 o ddangosiadau’r flwyddyn ar draws ein tair sgrin.
Gweler y rhaglen lawn ymaCwestiynau Cyffredin Sinema
Er bod y wybodaeth yn ein rhaglen chwarterol yn gywir ar adeg mynd i’r wasg, gall amserlenni sinema newid ar fyr rybudd.
Argymhellwn eich bod yn archebu eich tocynnau ymlaen llaw lle bynnag y bo modd; yna gallwn gysylltu â chi os bydd unrhyw newidiadau.
Mae’r amserlen fwyaf diweddar bob amser i’w gweld ar ein gwefan, felly gwiriwch cyn teithio os nad ydych wedi archebu eich tocyn ymlaen llaw.
Bydd ffilmiau’n dechrau ar yr amser a hysbysebir.
Mae mynediad gwastad i bob un o'n sgriniau, gyda lifft ar gael rhwng lloriau. Mae gennym fannau penodol ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn, a gallwn ddarparu ar gyfer ceisiadau mynediad ychwanegol. Siaradwch ag aelod o staff neu e-bostiwch boxoffice@mwldan.co.uk os oes angen cymorth ychwanegol arnoch.
Mae ein holl seddi sinema yn cael eu gwerthu ar sail ddyranedig. Gallwch ddewis eich sedd eich hun wrth archebu ar-lein, neu ofyn am eich sedd ddewisol wrth archebu'n bersonol neu dros y ffôn.
Sylwch, wrth archebu'n bersonol, ni allwn rannu'r sgrin yn unol â GDPR, ond byddwn yn gwneud ein gorau i ddarparu ar gyfer eich dewis.
Mae gennym dri awditoriwm sy’n dangos ffilmiau. Bydd rhai teitlau ffilm yn cael ei chwarae mewn mwy nag un sgrin. Byddwch yn gallu gweld pa sgrin yr ydych yn archebu ar ei chyfer pan fyddwch yn archebu ar-lein, neu bydd ein swyddfa docynnau yn gallu eich cynghori pan fyddwch yn archebu ar y ffon neu mewn person.
Bydd gwydr plastig amldro yn cael ei ddarparu os dymunwch fynd â'ch diod i mewn gyda chi (gofynnwch i'r bar). Mae ein bar ar agor yn ystod ein horiau agor. Rydym yn gweini amrywiaeth o ddiodydd poeth ac oer a byrbrydau melys a sawrus. Gellir mynd â bwyd a diod a brynir ar y safle i ddangosiad sinema.
Os ydych wedi archebu ar-lein yna dangoswch eich archeb ar eich ffôn yn y Swyddfa Docynnau / i aelod o staff. Os ydych wedi archebu mewn person a bod gennych docyn ffisegol, yna dangoswch hwn i’r person yn y Swyddfa Docynnau / i aelod o staff.
Byddwch yn ystyriol o’ch cyd-aelodau o’r gynulleidfa. Gall defnyddio ffôn - hyd yn oed ar fodd tawel - fod yn aflonyddgar iawn mewn gofod tywyll. Yn ddelfrydol, diffoddwch eich ffôn.
Mae ffilmio neu gymryd unrhyw fath o glipiau ffilm yn cael ei wahardd yn llwyr a gall arwain at ddirwy os cewch ei ddal.
Gellir mynd â bwyd a diod a brynir ar y safle i ddangosiad sinema. Nid ydym yn caniatáu bwyd poeth yn yr awditoriwm. Mae ein bar ar agor yn ystod ein horiau agor. Rydym yn gweini amrywiaeth o ddiodydd poeth ac oer a byrbrydau melys a sawrus.
Bydd gwydr plastig amldro yn cael ei ddarparu os dymunwch fynd â'ch diod i mewn gyda chi (gofynnwch i'r bar).
Pwy sy'n ddigon hen i wylio'r ffilm yma? Gwybodaeth am dystysgrifau ffilm BBFC
U
Dylai ffilm U fod yn addas i unrhyw un dros bedair oed
PG
Dylai ffilm PG (‘Parental Guidance’) fod yn addas i unrhyw un 8 oed neu hŷn. Gall plant o unrhyw oedran sydd ar eu pen eu hunain wylio, ond cynghorir rhieni i ystyried a all y cynnwys ypsetio plant iau, neu blant mwy sensitif.
12A
Ni all unrhyw un iau na 12 oed weld ffilm 12A mewn sinema oni bai yng nghwmni oedolyn, a dylai oedolion sy’n bwriadu mynd â phlentyn o dan 12 oed i weld 12A ystyried a yw’r ffilm yn addas ar gyfer y plentyn hwnnw.
15
Ni chaiff neb iau na 15 oed weld ffilm 15 mewn sinema.
18
Ni all unrhyw un iau na 18 oed wylio ffilm 18 mewn sinema.
Gallwch ddarllen mwy am broses dosbarthu ffilmiau BBFC ar eu gwefan bbfc.co.uk
Peidiwch â gweld o'i chwith os bydd ein staff yn gofyn am gael gweld dull adnabod i gadarnhau eich bod yn ddigon hen i weld y ffilm yr ydych yn archebu lle amdano, gwneir hyn er lles ein cwsmeriaid.
Mae’r holl benderfyniadau ynghylch dosbarthu ffilmiau yn seiliedig ar ganllawiau cyhoeddedig Bwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain (BBFC) sy’n cael eu diweddaru’n rheolaidd. Gwnewch yn siŵr bod gennych ID ffotograffig gyda chi i osgoi cael eich troi i ffwrdd.
Os ydych rhwng 15-17 oed ac yn edrych yn ifanc, rydym yn argymell yn gryf dod â rhyw fath o ID ffotograffig gyda chi.
– Pasbort (mae llungopi yn iawn cyn belled â bod yr holl wybodaeth yn glir)
- Trwydded yrru lawn/dros dro
– Cerdyn ID a gymeradwyir gan y Llywodraeth, er enghraifft “My ID Card” neu “Post Office EasyID”
Mae’n rhaid bod llun a dyddiad geni i’w gweld yn glir ar unrhyw fath o ID.
Am delerau ac amodau tocynnau cyffredinol a chwestiynau sy'n ymwneud â hygyrchedd ewch i'n tudalen sut i archebu.