South Wind Blows / Mwldan / Triongl Yn Cyflwyno:
Gŵyl Lleisiau Eraill 2025
Pricing
General Admission
£40.00 per ticket earlybird / £60 Full / £15 under 18s
Byw – Gŵyl: 30 Hyd – 1 Tach
Cyhoeddi’r actau cyntaf ar gyfer Llwybr Cerdd Lleisiau Eraill Aberteifi!
Fel bob amser, byddwn yn dod â rhai o’r actau mwyaf disglair a gorau o Iwerddon, Cymru a thu hwnt i leoliadau ar draws y dref i chwarae ar y Llwybr Cerdd, a dyma’r don gyntaf o berfformwyr sydd wedi’u cadarnhau...
Baby Brave / Bruna Garcia / Curtisy / Daithí / Danielle Lewis / David Murphy / Ellie O'Neill / God Knows / Gwen Sion / Joshua Burnside / Kidsmoke / Makeshift Art Bar / Molly Palmer / Morn / Qbanaa / Róis / Salamay / Séamus & Caoimhe Uí Fhlatharta / Siula / Still Blue / Taff Rapids / Talulah / Tessio / The Factory Set / Tokomololo / Tramp / Wrkhouse
... a nifer mwy i’w cyhoeddi!
Byddwn yn cyhoeddi’r lein-yp llawn yn ystod yr wythnosau nesaf, felly cadwch lygad ar gyfryngau cymdeithasol Lleisiau Eraill a’r Mwldan am ddiweddariadau! Bachwch eich band chi nawr am bris cynnar o £40 (yn codi i £65 o 1 Gorffennaf).
Eglwys y Santes Fair Eleni unwaith eto, bydd rhai prif berfformiadau arbennig iawn yn goleuo Eglwys y Santes Fair, gyda’r anhygoel Huw Stephens wrth y llyw. Bydd y rhain yn cael eu darlledu’n fyw ledled y byd am ddim trwy sianel YouTube Other Voices, a’u ffrydio i sgrin sinema yn y Mwldan, felly p'un a ydych chi gartref neu yn mynd o le i le yn Aberteifi, byddwch chi'n gallu gwrando a gwylio. Does dim sbel i aros, caiff y perfformiadau cyntaf yn yr Eglwys eu cyhoeddi cyn hir...
Newydd ar gyfer 2025: Gall yr holl ddeiliad band arddwrn fynychu perfformiadau'r Eglwys ar sail y cyntaf i'r felin. Bydd gan bob artist slot penodol, gyda'r Eglwys yn cael ei chlirio rhwng setiau er mwyn rhoi cyfle i gynifer o bobl â phosibl fynychu. Does dim angen tocynnau ar wahân - ymunwch â'r ciw ar gyfer yr artistiaid yr hoffech eu gweld a phrofi'r hud y tu mewn i Eglwys y Santes Fair.
Clebran a Clebran ar y Llwybr
Y tu hwnt i'r digwyddiadau cerddorol, mae eich band arddwrn hefyd yn cynnwys mynediad heb gyfyngiad i Clebran. Yn digwydd yn y Mwldan yng nghanol Aberteifi, mae elfen drafod Lleisiau Eraill Aberteifi yn dod ag artistiaid, eiriolwyr, meddylwyr a llunwyr polisi o Iwerddon a Chymru ynghyd i archwilio rhai o bynciau pwysicaf ein hoes, gan gynnig safbwyntiau ffres a chipio’r dychymyg.
Bydd Clebran yn rhedeg drwy gydol yr ŵyl, gyda'r lein-yp llawn yn cael ei gyhoeddi cyn hir - cadwch lygad allan!
Yn dilyn ei lwyddiant début y llynedd, mae Clebran ar hyd y Llwybr yn dychwelyd, gan gynnig sgyrsiau agos atoch o gwmpas Aberteifi, lle mae cerddorion a pherfformwyr yn trafod yr hyn sy’n eu hysbrydoli’n greadigol a’u hangerdd personol.
Mae eich band arddwrn Llwybr Cerdd yn rhoi mynediad heb gyfyngiad i holl drafodaethau Clebran. Mae Clebran wedi'i guradu ar y cyd ag Ireland's Edge.
Bandiau Arddwrn Cynnar
Mae bandiau arddwrn cynnar nawr ar werth am £40 yn unig, gan godi i £65 ar 1 Gorffennaf.
Mae eich band arddwrn yn cynnwys:
- Mynediad heb gyfyngiad i bob set ar y Llwybr Cerddoriaeth, yn cynnwys rhai o'r actau newydd mwyaf cyffrous o Iwerddon a Cymru
- Mynediad heb gyfyngiad i bob sesiwn Clebran a Clebran ar Hyd y Llwybr
- Mynediad i berfformiadau yn yr Eglwys (ar sail y cyntaf i'r felin)
Pwy sydd wedi chwarae Lleisiau Eraill Aberteifi o'r blaen?
Gallwch weld y rhestr o’n rhifynnau blaenorol yma.