Edge Street live Presents: Henry Normal - with Special Guest Clare Ferguson Walker

Yn Dangos

29 Tach - 29 Tach

Nesaf

Sad 29 Tach 7:30 yh

Tocynnau

Tocynnau

Tocynnau a gostyngiadau

£20.00 (Adult / Oedolion)

£19.00 (Job Seekers / Income Support / Ceiswyr Gwaith)

£19.00 (Child / Plentyn)

£19.00 (Disabled / Anabl)

£19.00 (Full Time Student 15+ / Myfyrwyr Llawn Amser 15+)

£19.00 (Senior 60+ / Pobl Hyn 60+)

+ Ffi archebu o 10% yn berthnasol i bob tocyn

Beth yw hwn?Mae pris yr holl docynnau yn cynnwys TAW ac yn amodol ar ffi archebu o 10% (sydd hefyd yn cynnwys TAW) lle bo’n berthnasol (Mae ffioedd archebu wedi’u cyfyngu i uchafswm o £3 y cart)

Mae Henry yn awdur, bardd, cynhyrchydd Teledu a Ffilm, sylfaenydd Gŵyl Farddoniaeth Manceinion (bellach yr ŵyl Lenyddiaeth) a chyd-sylfaenydd Gŵyl Farddoniaeth Nottingham.
Ym mis Mehefin 2017, cafodd ei anrhydeddu â BAFTA arbennig am ei wasanaethau i Deledu.
Cyd-ysgrifennodd a golygodd sgript y sioe Mrs Merton a enillodd lu o wobrau ynghyd â’r cyfresi dilynol, Mrs Merton a Malcolm. Hefyd, ar y cyd, fe greodd ac ysgrifennodd gyfres gyntaf The Royle Family.
Gyda Steve Coogan, cyd-ysgrifennodd Paul and Pauline Calf Video Diaries a enillodd wobr BAFTA, Coogan's Run, Tony Ferrino, Doctor Terrible a phob un o dair taith fyw Steve, yn ogystal â’r ffilm The Parole Officer.
Sefydlodd Henry Baby Cow Productions Ltd ym 1990, a bu’n Gynhyrchydd Gweithredol ar gyfer pob un o’r sioeau yn hanes 17 mlynedd a hanner y cwmni, yn ogystal â golygu sgriptiau llawer o’r sioeau yn ystod ei gyfnod fel Rheolwr Gyfarwyddwr.
Mae uchafbwyntiau cynyrchiadau Baby Cow yn ystod ei gyfnod yno yn cynnwys y ffilm a enwebwyd am Oscar, Philomena, I believe in Miracles, Gavin and Stacey, Moone Boy, Uncle, Marion and Geof, Nighty Night, The Mighty Boosh, Red Dwarf, Hunderby, Camping ac Alan Partridge.
Bardd, digrifwraig ac artist gwobrwyedig yw Clare Ferguson-Walker. A hithau’n wreiddiol o Orllewin Cymru, dyma hi’n dychwelyd i'w gwlad enedigol! Mae Clare wedi teithio ledled y DU gyda'i math unigryw o farddoniaeth ac wedi cefnogi Dr John Cooper-Clarke ar ei deithiau ers 10 mlynedd.
Other Voices Cardigan 2025

30 Hydref - 1 Tachwedd 2025

Lleisiau Eraill Aberteifi 2025

Tocynnau ar werth nawr!

Cwestiynau Cyffredin Sioeau Byw

Gweler ein hadran Cwestiynau Cyffredinol am archebu yma, neu cysylltwch â'n swyddfa docynnau ar boxoffice@mwldan.co.uk / 01239 621 200.