Back

Prosiectau Arbennig

Gallwn ddarparu gwasanaethau rheoli prosiect ar gyfer prosiectau penodol. Mae’r canlynol yn enghreifftiau o’n gweithgareddau:

Prosiect Mynediad Sinema

Yn 2007, arweiniodd a rheolodd y Mwldan osodiad Atgyfnerthiad Sain, Sain Ddisgrifiad ac Isdeitlo ar offer taflunio 35mm mewn deg canolfan y celfyddydau a sinema ar draws Cymru. Cafodd y prosiect ei ariannu’n rhannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru trwy ei gronfa Loteri Cyfalaf a chaniataodd cynulleidfaoedd sinema gyda nam ar y clyw neu ar y golwg ar draws Cymru i gael mynediad at ac i fwynhau'r ffilmiau diweddaraf yn eu canolfannau lleol.

Roedd y prosiect hefyd yn cynnwys hyfforddiant staff ym mhob un o’r canolfannau oedd yn cymryd rhan ar gyfer staff technegol, staff marchnata a gofal cwsmer, a chyhoeddodd canllaw ymarfer gorau ar gyfer rhaglenwyr, staff marchnata a rheolwyr canolfan.

Cafodd y prosiect llwyddiannus ei lansio’n ffurfiol gan David Bower, seren Four Weddings And A Funeral, yn Theatr Mwldan.

 

Prosiect Trosi’n Ddigidol

Yn 2011, dechreuodd y Mwldan arwain a rheoli’r prosiect o drosi 35mm i dafluniad digidol ar un ar ddeg sgrin sinema mewn canolfannau’r celfyddydau ar draws Cymru. Cafodd y prosiect ei wireddu mewn partneriaeth â’r Bartneriaeth Ariannu Ddigidol a Chyngor Celfyddydau Cymru, gydag ariannu rhannol tuag at offer perifferol a chostau trosi o Gyngor Celfyddydau Cymru trwy’r gronfa Loteri Cyfalaf.

Sicrhaodd y prosiect bod gweithgareddau’r sinema yn y canolfannau bu’n ymwneud â’r prosiect yn gallu parhau i’r dyfodol trwy dechnoleg sinema ddigidol, gan gynnwys gosod systemau digidol 3D ac offer i dderbyn a dangos darllediadau’n fyw trwy loeren. Galluogodd hyn y canolfannau bu’n cymryd rhan i gynnal eu gweithgareddau creu incwm o weithredoedd sinema, a hefyd i fanteisio ar y cyfleoedd masnachol ac artistig newydd a gynigir gan y farchnad loeren fyw ‘digwyddiad sinema’ newydd.

Cafodd y rhan gyntaf o drosi ar yr un ar ddeg sgrin ei gwblhau yn 2013. Yn hwyrach yn 2013 cychwynnodd y Mwldan ar brosiect i reoli ail ran y trosi digidol mewn chwe canolfan arall ar draws Cymru.

 

 

Top
P