Back

SECKOU KEITA: 22 STRINGS

Cyd-Gynhyrchiad Theatr Mwldan | Seckou Keita | Sasolo Ltd

Gyda cymorth gan Gwyneth Glyn

 

Yn dilyn llwyddiant ysgubol ei brosiect cydweithredol gyda’r delynores Gymreig Catrin Finch, bydd y chwaraewr kora rhyfeddol o Senegal, Seckou Keita, yn mentro ar ei ben ei hun yn 2015 gydag albwm unigol a thaith unigol o amgylch Prydain. Mae Seckou yn fath anghyffredin o gerddor, yn draddodiadol ond hefyd yn gwthio ffiniau ei gelf. Yn wir feistr ar y kora - telyn 21 tant o Orllewin Affrica - roedd Seckou yn rhyfeddod ers oed cynnar, wedi ei eni i linell o griots a brenhinoedd. Mae wedi perfformio’n rhyngwladol ers 1996, gan ennill canmoliaeth fyd-eang am ei chwarae kora ac ymddangos gyda llu o artistiaid enwog megis Salif Keita ac Yossou N’Dour.

 

Aeth ei ddau albwm unigol diwethaf i frig siartiau cerddoriaeth byd Ewrop, ac enillodd ei albwm cydweithredol Clychau Dibon wobr Albwm y Flwyddyn fRoots ymhlith gwobrau eraill. Erbyn hyn mae’n ddiau mai Seckou Keita yw’r chwaraewr kora mwyaf dylanwadol ac ysbrydoledig ei genhedlaeth, yn gerddor eithriadol gyda charisma hyfryd ar y llwyfan. Bydd y daith ddiweddaraf hon yn archwilio’r hyn ydyw i fod yn ddinesydd byd-eang, ond eto byw gyda saith canrif o draddodiad ac etifeddiaeth wedi eu mynegi trwy gerddoriaeth.

 

Yn ymuno â Seckou fydd Gwyneth Glyn. Yn fardd, ysgrifenwraig a chantores, mae Gwyneth, sy’n dod o ardal Griccieth, yn archwilio ei hetifeddiaeth werin yn ei mamiaith.

 

AR DAITH:

 

January 2016


29       Celtic Connections, GLASGOW 

 

FEBRUARY 2016


18        St George’s, BRISTOL

19        Torch Theatre, MILFORD HAVEN

20        Pontardawe Arts Centre, PONTARDAWE

27        The Forge, BASINGSTOKE

 

Wedi ei noddi’n rhannol gan Gyngor Celfyddydau Lloegr.

 

Browse more shows tagged with:

Top