Back

Son Of Saul (15)

László Nemes, Hungary, 2015, 107’

Hydref 1944, yn Auschwitz-Birkenau, mae Saul Ausländer yn aelod Hwngaraidd o’r Sonderkommando, y grw^p o garcharorion Iddewig a neilltuwyd o’r gwersyll a’u gorfodwyd i helpu’r Natsïaid i weithredu lladdfa ar raddfa anferth. Wrth weithio yn un o’r amlosgfeydd, mae  Saul yn darganfod corff ei fab. Penderfyna Saul wneud yr amhosibl: achub corff y bachgen rhag y fflamau, dod o hyd i rabi i adrodd Kaddish  y galarwr a chynnig claddedigaeth cyfiawn i’r crwt.

SUBTITLES | IS-DEITLAU

£7.10 (£5.40)

Browse more shows tagged with:

Top