Back

My Feral Heart (12A)

Jane Gull, UK, 2016, 83’

Mae profedigaeth sydyn yn taflu Luke, dyn ifanc annibynnol a chanddo syndrom Downes, i amgylchfyd newydd brawychus. Mae’n darganfod cefnogaeth annisgwyl gan ei ofalwr ewn a chan etifedd lleol sy’n delio â’i gythreuliaid ei hun. Wrth i gyfeillgarwch flodeuo a hen gyfrinachau ddod i’r wyneb, mae Luke ar drothwy trychineb.

Mae dangosiadau y Gymdeithas Ffilm am ddim i Aelodau y Gymdeithas Ffilm!

Bydd aelodau ac aelodau cysylltiol hefyd yn derbyn disgownt sylweddol oddi ar brisiau dangosiadau arferol (heb fod yn ddangosiadau CFfThM) yn y Mwldan. e-bostiwch tmfs@mwldan.co.uk neu cliciwch yma i weld sut gallwch fwynhau mwy o ffilmiau am lai o arian!  

£7.10 (£5.40)

Top