Back

I Am Not A Witch (12A)

Rungano Nyoni | 2017 | UK | France | 93’

Nid yw’r bobl ym mhentref Shula, merch naw mlwydd oed, yn gwastraffu unrhyw amser wrth edrych am rywun i feio am eu hanffodion, a Shula, yn newydd i’r dref, a heb unrhyw deulu, yw’r dewis amlwg. Wedi ei chondemnio fel gwrach, caiff ei rhoi mewn gwersyll teithiol i wrachod caiff ei redeg gan y Llywodraeth. Mae’r ffilm drawiadol gyntaf hon gan Rungano Nyoni a anwyd yn Zambia ond a fagwyd yng Nghymru, yn saernïo fframwaith o ofergoeliaeth a defod ac ar hwnnw mae’n hongian portread hynod realistig ac enigmatig am fywyd plentyn.

£7.30 (£5.50)
IS-DEITLAU

Top