Theatr Genedlaethol Cymru: Tylwyth

gan / by Daf James

Bydd sgwrs cyn y sioe i ddysgwyr lefel uwch am 6.30yh yn yr oriel. 

Mae Aneurin wedi bod yn dianc rhag ei orffennol, ond – mewn tro annisgwyl, diolch i Grindr – mae e wedi syrthio mewn cariad. Pan mae Dan ac yntau’n penderfynu mabwysiadu, mae'r ddau ohonynt ar ben eu digon. Ond wrth addasu i fywyd fel tad, a throi cefn ar orffennol gwyllt, mae ofnau duaf Aneurin yn dychwelyd.

Ddeng mlynedd ers y ddrama glodwiw ac arloesol Llwyth, mae Aneurin, Rhys, Gareth a Dada yn ôl mewn drama newydd, dyner a direidus gan Daf James. Gan daflu golwg grafog ar gariad, teulu a chyfeillgarwch, mae Tylwyth yn cynnig sylwebaeth feiddgar a phryfoclyd ar y Gymru gyfoes.

Canllaw Oed: 16+

Yn cynnwys iaith gref, golygfeydd o natur rywiol a themau aeddfed

Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr y Sherman A Theatr Genedlaethol Cymru and Sherman Theatre production

£14 (£12) (£3)

 
Yn addas i oedran 16+. Yn cynnwys iaith gref, golygfeydd o natur rywiol a themâu aeddfed.

Browse more shows tagged with: