Back

Theatr Franwen: ŴY, CHIPS A NAIN

Mae Guto yn caru treulio amser gyda’i Nain.

Trip cwch i Iwerddon, picnic ar lan y môr, fflagiau semaffôr a thylwyth teg yn troi plant yn selsig!

Ond mae eu hantur fwyaf heriol eto i ddod.

Cynhyrchiad ar y cŷd rhwng Galeri, Caernarfon a Frân Wen yw Ŵy, Chips a Nain.

Wedi ei ysgrifennu gan Gwyneth Glyn, mae’r sgript yn dathlu dychymyg plentyn, gan archwilio’r berthynas arbennig rhwng dwy genhedlaeth, a sut mae dementia yn effeithio ar y berthynas yma dros amser.

£8 (£6)
PERFFORMIAD YN YR IAITH GYMRAEG, YN ADDAS I OEDRAN 7+

Top