Back

Rhodri Miles- Dylan Thomas: Clown In The Moon

Mae CLOWN IN THE MOON (teitl cerdd a ysgrifennwyd gan Dylan pan oedd yn 14 mlwydd oed) yn bortread dramatig o fywyd anhrefnus, doniol, a rhy fyr o lawer y bardd. Wedi ei lleoli mewn stiwdio BBC, mae’n gosod rhai o ddarllediadau enwog a darnau gwaith eiconig Dylan ochr yn ochr ag atgofion lliwgar ei gampau drygionus mewn tafarnau, barrau a phartïon, a’i gyfarfodydd gyda llu o fenywod ecsentrig a tanllyd.

Caiff y sioe unigol hon ei chyfarwyddo gan y cyfarwyddwr a’r actor clodfawr Gareth Armstrong (Shylock, My Darling Clemmie, Rape of Lucrece, Becoming Marilyn) a’i hysgrifennu gan yr ysgrifennwr uchel ei fri Gwynne Edwards (Burton, Dylan Thomas in America).

Dychwela Rhodri Miles (Holby City, Torchwood, Richard II, Eastern Promises, Game of Thrones, Hinterland, Atlantis) fel Dylan Thomas yn dilyn ei berfformiadau llwyddiannus clodfawr o ‘Burton’, enillydd ‘Gwobr y Sioe Ryngwladol Orau’ yng Ngŵyl Theatr Fringe Hollywood yn 2010. Mae CLOWN IN THE MOON yn dilyn yn fuan wedi ei ymddangosiad fel Lodovico yn ‘Othello’ gan Shakespeare yn Theatr Crucible Sheffield, ynghyd ag actorion ‘Wire’, sef Clarke Peters a Dominic West, a’i rôl fel y Capten Cymreig yn Richard III gan Shakespeare yng nghyfres Hollow Crown y BBC.

£13 (£11)
Captivating and deeply moving
London Theatre 1
Mesmeric, flawless
Broadway Baby
Fantastic, the whole audience was in the palm of his hand from beginning to end
Edinburgh Guide
Charming, Elegant one-man show which struggles to remove itself from the memory
The Scotsman

Browse more shows tagged with:

Top