Back

Oes Rhaid I Mi Ddeffro?

Cerddoriaeth, dawns, hedfan, breuddwydion, byd hudol lle mae hosanau yn troi’n frecwast... a lot fawr o hwyl! Mae Oes Rhaid i Mi Ddeffro yn gynhyrchiad rhyngweithiol i blant ifanc (2-8) a’u teuluoedd sy’n wledd i ddychymyg y wylwyr!

Mae’r gynulleidfa yn cael cyfle i adeiladu a chreu eu straeon eu hunain mewn perfformiad sy’n cyffwrdd â themâu megis rhannu, creu a ffrindiau. Ymunwch â ni ym myd breuddwydiol y cynhyrchiad gan Gwmni Theatr Arad Goch a wnaeth yn torri tir newydd ym maes theatr i blant yng Nghymru trwy cyfuno coreograffi cyfoes Eddie Ladd a cherddoriaeth gwerin o’r 18fed Ganrif.

Yn Addas i 2 – 8 oed

PERFFORMIAD YN YR IAITH GYMRAEG 

£6 Blant, Athrawon am ddim

Top