Back

Martyn Joseph

Mae Martyn Joseph yn berfformiwr heb ei ail.

Mae’n chwaraewr gitâr rhyfeddol gydag arddull unigryw sy’n uno â llais nerthol syfrdanol. Mae cyfosodiad yn brif thema yng ngwaith Martyn ac mae ‘na amlbwrpasedd i’w gerddoriaeth sy’n anodd ei gategoreiddio. Mae ei ganeuon yn lluniau, ac yn straeon, a theimladau wedi eu gosod i gerddoriaeth a’u cyflwyno gan Feistr ar ei Grefft. Roedd 2016 yn flwyddyn brysur iddo, a chwaraeodd dros 170 o sioeau ar draws y byd yn ogystal â bod yn rhan o brosiect Seneddol/EFDSS oedd yn marcio 800 mlynedd o ddemocratiaeth Brydeinig. Martyn Joseph. Dawn unigryw caiff ei yrru gan angerdd a chariad tuag at ei alwedigaeth, yn parhau i ysgrifennu, canu a chwarae o’r galon.  

£16 (£15)

Browse more shows tagged with:

Top