Back

The Hot Club of Cowtown

Ers ei ddechreuad ar ddiwedd yr 1990au, mae seren y Hot Club of Cowtown wedi parhau ar ei anterth wrth i’w enw da am feistrolaeth syfrdanol a sioeau byw bythgofiadwy droi’n nodweddiadol o arddull y band. Wedi ei ganmol am ei “down-home melodies and exuberant improvisation” (The Times, Llundain), mae’r Hot Club bob amser wedi gwau ynghyd gyfuniad o arddulliau sydd yn annhebyg ar yr olwg gyntaf er mwyn creu effaith hudol, gan osod ei hun “at that crossroads where country meets jazz and chases the blues away” (The Independent), gan aros “conscious always that above all else, the music is for dancing and an old-fashioned good time” (New York Times). Disgrifiwyd alcemi’r band fel “another breathless journey in the Texas tardis” (The Times, Llundain),tra bod American Songwriter yn nodi “the excellent three players of this band could be doing anything but have chosen to honor the greats of jazz and swing with their sound.” Galwa’r Belfast Telegraph yr Hot Club of Cowtown “a pretty much perfect country trio at the very top of their game,” ac yn ôl y New York Times, mae gan y triawd “an arsenal full of technique and joy.” Mae’r Hot Club yn mwynhau dilyniant cwlt ymroddedig ar draws y byd, ac mae wedi teithio gyda Willie Nelson a Bob Dylan yn ystod taith stadiwm haf, ac yn ddiweddar agorodd saith noson o “For Your Pleasure” taith stadiwm Prydain Roxy Music pan werthwyd bob tocyn. Yn y D.U. mae’r Hot Club of Cowtown yn parhau i deithio’n eang gan ymddangos yng Ngŵyl Glastonbury ac fel gwestai eto ar Later with Jools Holland, Gŵyl Werin Caergrawnt, a Radcliffe and Maconie BBC Radio 2 a sioeau Canu Gwlad Bob Harris.

£17.50 (£16.50)

Browse more shows tagged with:

Top