Back

Blazin' Fiddles

Un o actau gwerin cyfoes blaenaf yr Alban, mae Blazin’ Fiddles yn cyfuno 20 mlynedd o brofiad gydag awydd cerddorol, bywiogrwydd a soffistigedigrwydd sydd bob amser yn ffres. Yn cwmpasu detholiad prin a meistrolgar o leisiau amrywiol y ffidl o’r Ucheldiroedd a’r Ynysoedd, gyda setiau ensemble a darnau unigol, y ddau wedi eu cefnogi gan gitâr a phiano, mae’r Blazers yn cynnwys holl bwˆer, brwdfrydedd a sensitifrwydd cerddoriaeth draddodiadol yr Alban, mewn un sioe. Pa bynnag neuadd - boed yn bentref yn yr Ucheldiroedd neu o fath y Royal Albert - byddant yn ei droi yn hootenanny bywiog a gwresog, gan gipio calonnau eu cynulleidfa.

£17.50 (£16.50)

Browse more shows tagged with:

Top