Back

RSC Live: Antony and Cleopatra

  DIGWYDDIADAU DARLLEDU BYW MEWN DIFFINIAD UCHEL WEDI SGRINIO DRWY LOEREN O ROYAL SHAKESPEARE COMPANY STRATFORD UPON AVON.  

Iqbal Khan sy’n cyfarwyddo trasiedi Shakespeare am gariad a dyletswydd, gan gychwyn y stori ble mae Julius Caesar yn diweddu.

Yn dilyn dienyddiad Cesar, mae Mark Antony’n cyrraedd brig awdurdod. Bellach mae wedi esgeuluso ei ymerodraeth am fywyd o swyn moethus gyda’i feistres, Cleopatra, Brenhines yr Aifft. Wedi ei rwygo rhwng cariad a dyletswydd, mae disgleirdeb milwrol Antony yn ei adael, ac mae ei angerdd yn arwain y cariadon tuag at ddiwedd trasig.

£12.50 (£11.50)

Browse more shows tagged with:

Top