Back

ROH: Elektra

Mae addasiad gwefreiddiol a mentrus Strauss o drasiedi Roegaidd yn destun llwyfannu newydd gan y cyfarwyddwr clodfawr, Christof Loy. Mae'r opera ddigyfaddawd hon, am ferch sy'n benderfynol o ddial yn waedlyd a mam a gaiff ei gwthio i wallgofrwydd, wedi sbarduno trafodaeth frwd ymhlith beirniaid, ac wedi gwefreiddio a chyffroi cynulleidfaoedd ers ei pherfformiad cyntaf ym 1909. Antonio Pappano sy'n arwain yn ei ddehongliad cyntaf o Strauss i'r Opera Frenhinol ers 2002. Mae'r cast rhagorol yn cynnwys Nina Stemme yn y brif rôl, a Karita Mattila fel y frenhines gythryblus Klytämnestra.

Cenir yn Almaeneg gydag uwchdeitlau Saesneg 

Approximate running time: 120 minutes

£16 (£15)

120 Munud
Cenir yn Almaeneg gydag uwchdeitlau Saesneg

Browse more shows tagged with:

Top