Back

NT Live: Young Marx (12A AS LIVE)

Mae’n 1850 ac mae terfysgwr mwyaf brawychus Ewrop yn cuddio yn Stryd Dean, Soho. Heb yr un geiniog, yn aflonydd ac yn chwantus, mae’r chwyldroadwr deuddeg ar hugain mlwydd oed yn gyfuniad o ddeallusrwydd disglair, ffraethineb difrïol, dychanol, ac anllythrennedd emosiynol plentyn.

Mae credydwyr, ysbiwyr, carfanau chwyldroadol gwrthwynebol a darpar denwyr ei wraig brydferth yn amgylchynu fel fwlturiaid. Gyda’i ysgrifennu ar stop, ei briodas yn marw, ei gyfaill Engels mewn anobaith ynglŷn â’i athrylith ddiffaith, ei unig obaith yw gwaith ar y rheilffordd. Ond eto nid oes unrhyw un arall yn y brifddinas sy’n gallu dangos gwell noson allan ar y cwrw i chi na Karl Heinrich Marx.

Rory Kinnear (The Threepenny Opera, Penny Dreadful, Othello) yw Marx ac Oliver Chris (Twelfth Night, Green Wing) yw Engels, yn y gomedi newydd hon wedi ei hysgrifennu gan Richard Bean a Clive Coleman. Wedi ei ddarlledu’n fyw o The Bridge Theatre, Llundain, caiff y cynhyrchiad ei gyfarwyddo gan Nicholas Hytner gan ailuno’r tîm creadigol y tu ôl i gomedi fawr Broadway a’r West End, sef One Man, Two Guvnors.

£12.50 (£11.50)

Browse more shows tagged with:

Top