Back

Muse: Drones World Tour

Tom Kirk, Jan Willem Schram | DU | 2018 | 90'

Cychwynnodd Muse, y band byd-eang clodfawr sydd wedi gwerthu albymau platinwm ac ennill gwobrau di-ri, ar y Daith Byd Drones uchelgeisiol yn 2015-16, gan chwarae dros 130 dyddiad ar draws y byd. Yn adnabyddus am wthio ffiniau yn nhermau cynhyrchiad llwyfan, ar y daith roedd y band yn perfformio ar lwyfan yng nghanol yr arena, gyda dyluniad a ffurfwedd y llwyfan yn rhoi profiad synhwyraidd clywedol/gweledol 360 gradd i ddilynwyr.

Yn ganolog i ddelweddau gweledol y daith oedd y Dronau, a hedfanodd yn annibynnol uwch ben y llwyfan ac ar draws y gynulleidfa, ynghyd â thafluniadau enfawr oedd yn rhyngweithio ag aelodau’r band ar y llwyfan. Roedd y wledd hon i’r llygaid, a gynhwysai LEDs a laserau, yn cyd-fynd yn berffaith â repertoire enwog y band. Roedd y caneuon allweddol a berfformiwyd ar y daith yn cynnwys “Psycho”, “Madness”, “Uprising”, “Plug in Baby”, “Supermassive Black Hole” a Knights of Cydonia.” 

 

Yma, gwelwn y band ar frig ei bwerau, yn creu profiad bythgofiadwy i’w ddilynwyr, ac yn mynnu cael ei wylio ar y sgrin fawr.

£12 (£10)
Mae'r ffilm hon yn cynnwys dilyniant o oleuadau'n fflachio gall o bosib effeithio ar gwsmeriaid sy'n dueddol o gael epilepsi ffotosensitif

Browse more shows tagged with:

Top