Back

Jojo Rabbit (12A)

Taika Waititi | Germany | USA | 2019 | 108’

Mae’r ysgrifennwr Taika Waititi (Thor: Ragnarok, Hunt for the Wilderpeople), yn dod â’i arddull nodweddiadol o hiwmor a phathos i’w ffilm ddiweddaraf, Jojo Rabbit. Mae hon yn ffilm ddychan yr Ail Ryfel Byd sy’n dilyn bachgen unig o’r Almaen (Roman Griffin Davis). Caiff ei fyd ei droi wyneb i waered pan mae’n darganfod bod ei fam sengl (Scarlett Johansson) yn cuddio Iddewes ifanc (Thomasin McKenzie) yn eu llofft. Heb unrhyw un i’w gynorthwyo ond ei ffrind dychmygol, Adolf Hitler (Taika Waititi), rhaid i Jojo wynebu ei genedlaetholdeb dall.

£7.70 (£5.90)

Browse more shows tagged with:

Top