Back

Bohemian Rhapsody (12A) Singalong @Castell Aberteifi - Cardigan Castle

FERSIWN CYD-GANU

SINEMA AWYR AGORED YN Y CASTELL

Hyrwyddiad ar y cyd gan Theatr Mwldan - Castell Aberteifi Co-Promotion

Fel rhan o’n tymor haf yn y Castell, byddwn yn cyflwyno sinema awyr agored, yn dangos Bohemian Rhapsody – y fersiwn cydganu.

Mae Bohemian Rhapsody yn ddathliad cyffrous o Queen, eu cerddoriaeth a’u prifgantor rhyfeddol Freddie Mercury. Heriodd Freddie ystrydebau a chwalodd gonfensiwn i ddod yn un o’r diddanwyr mwyaf hoffus ar y blaned. Mae’r ffi lm yn olrhain enwogrwydd sydyn y band drwy eu caneuon eiconig a’u sain chwyldroadol i un o’r perfformiadau gorau yn hanes cerddoriaeth roc.

Dewch â’ch blancedi neu seddi i eistedd arnynt (a digon o ddillad cynnes!) a pharatowch i ymuno â’r trac sain yng ngerddi ysblennydd Castell Aberteifi.

Bydd hwn yn ddigwyddiad awyr agored ac os yw’r tywydd yn arw, aildrefnir y dangosiad.

Gyda chefnogaeth gan Theatr y Torch

£10 O FLAEN LLAW (£12 WRTH Y DRWS - ARIAN PAROD YN UNIG)

Browse more shows tagged with:

Top