theatr mwldan cardigan
siop mwldan
cartref beth sy' 'mlaen gwybodaeth archebu oriel siop caffi gwybodaeth newyddion


Theatr Mwldan Gwybodaeth Theatr Mwldan Gwybodaeth Theatr Mwldan Gallery

Billy Cobham & Asere Cyngerdd bywBilly Cobham & Asere
A Latin Soul
Cyngerdd Byw

DVD (Fformat PAL)
gyda CD sain 0 yn unig o'r fath!

Y Drymiwr enwog yn dod ynghyd â’r band o Giwba sy’n torri tir newydd

“The intricacies of Afro-Cuban rhythms are taken to breathtaking places by these fantastic musicians.”
Thomas Brooman, Artistic Director, WOMAD

£15.00 (£2.50 p&p) Prynwch Nawr !

 

Mae A Latin Soul yn cynnwys deunydd byw o’r daith A Latin Soul!, rhaglen ddogfen Billy Cobham sy’n cynnwys Billy’n siarad am ei wreiddiau, tu ôl i’r llwyfan ac yn ymarfer,  rhaglen ddogfen Asere yn cynnwys Asere yn trafod eu perthynas cerddorol gyda Billy a gyda’u cartref, a CD sain 8 trac gyda 6 recordiad heb eu clywed o’r blaen!

Mae gan y drymiwr enwog Billy Cobham lu o edmygwyr ffyddlon ar draws y byd. Mae ei stori mor faith nes iddo rychwantu degawdau a chynnwys cydweithrediadau gyda rhestr sylweddol o enwogion miwsig modern, gan gynnwys Miles Davies, George Benson, Oscar Peterson, Jack Bruce, John McLaughlin, Herbie Hancock.

Mae repertoire creadigol ac arloesol Asere yn talu teyrnged i draddodiadau cerddorol Ciwba, ond mae ganddynt awch cyfoes cyffrous ei hun ysgrifennu dyfeisgar a rhythm dwys.  

Ganwyd Billy Cobham ym Mhanama a phan yn dair blwydd oed symudodd gyda’i rieni i Efrog Newydd. Mae prosiect Billy Cobham & Asere yn rhan o broses lle mae Billy yn ailgysylltu â’i wreiddiau Lladin, yn archwilio ac yn ailddarganfod ei gerddoriaeth naturiol a’i etifeddiaeth ddiwylliannol. Caiff berthynas cerddorol gwefreiddiol Billy ac Asere ei wedi ei thanio gan barch, natur ddigymell a phleser, A Latin Soul yw hanes eu cydweithrediad  rhyfeddol.


£12.00 (£2.50 p&p) Prynwch Nawr !

Pindrop Band – Live at Mwldan

Pan berfformiodd y Pindrop band o flaen cynulleidfa lawn yn Theatr Mwldan ar nos Sadwrn ym mis Mai, recordiwyd y CD hwn mewn stereo yn syth oddi ar ddesg gymysgu’r Mwldan! Mewn byd lle mae cymaint o gerddoriaeth yn cael ei roi at ei gilydd gyda dewiniaeth gyfrifiadurol “yr hyn glywch chi yw’r hyn gewch chi”: casgliad difrycheulyd, gyson o ganeuon a chaneuon offerynnol, gyda chasgliad o offerynnau fydd yn tynnu dwr o ddannedd, gitârs wedi’u gwneud o duniau olew olewydd, "tinklele", telyn Geltaidd a lleisiau gwefreiddiol. Mae llawer o’r caneuon yn wreiddiol, a rhai ohonynt wedi’u hysgrifennu gan Piers Partridge a aned yn Aberteifi am dyfu i fyny yn yr ardal. Ffefrynnau ar y noson oedd Ceibwr Bay, Born on a Farm, Take a Walk on the Wildside, a’r gân offerynnol ar y tuniau olew olewydd oedd yn hynod ddoniol, Dans y Derrin. 


|
|
|
|
gwybodaeth
|
|
|