|
ironmantbc
Mai 2 @ 5.40 & 8.20, 3 - 5 @ 3.00, 5.40 & 8.20, 6 – 9 @ 5.40 & 8.20, 10, 11 @ 3.00, 5.40 & 8.20, 12 – 15 @ 5.40 & 8.20 |
 |
IRON MAN
Robert Downey Jr. sy’n chwarae rhan Tony Stark, dyn sy’n troi’n archarwr yn dilyn damwain bu bron ei ladd, yn yr addasiad cyllideb fawr Marvel Comics. Mae Stark yn ddiwydiannwr ac yn athrylith o ddyfeisiwr gwerth biliynau sy’n cael ei herwgipio a’i orfodi i adeiladu arf dinistriol. Yn hytrach, gan ddefnyddio’i ddeallusrwydd a’i ddyfeisgarwch, mae’n adeiladu arfwisg soffistigedig ac yn dianc o’i garcharwyr. Ar ôl dychwelyd i America, rhaid i Tony ddod i delerau gyda’i orffennol. Wrth ddarganfod cynllwyn ysgeler sydd â goblygiadau byd-eang, mae’n gwisgo’i arfwisg nerthol ac yn tyngu llw i amddiffyn y byd fel Iron Man.
|
Mwldan 1 |
TBA |
tbc munud |
|
|
|
hortonhearsawho
Mai 2 @ 5.00, 3 – 5 @ 4.00, 10, 11 @ 1.50, 17, 18 @ 1.50, 25 @ 12.30, 27 – 29 @ 12.30, 30 @ 2.00 Mehefin 1 @ 2.00, 7, 8 @ 1.40 |
 |
HORTON HEARS A WHO
Dyma stori glasurol a hoffus gan Dr Seuss yn dod i’r sgrîn fawr mewn ffilm animeiddiedig newydd i’r teulu cyfan. Mae eliffant dychmygus, sef Horton, yn clywed cri fach am help yn dod o sbecyn o lwch sy’n arnofio heibio. Mae Horton yn amau bod bywyd yn y sbecyn ac er gwaethaf y gymuned sy’n meddwl ei fod yn wallgo’, mae’n benderfynol o achub y sbecyn bach.
|
Mwldan 2 |
U |
86 munud |
|
|
|
stepup
Mai 2 @ 7.00, 3 – 5 @ 6.10, 10, 11 @ 3.50, 17, 18 @ 4.00 |
 |
STEP UP 2: THE STREETS
Yn ail-wampiad sy’n gwella ar y llwyddiant gwreiddiol yn 2006, sef Step Up, mae’r rhamant ddawns hon yn cynnwys cast a chriw newydd sbon ar gyfer y gwrthdrawiadau diwylliannol bale/ghetto. Mae’r dawnsiwr stryd gwrthryfelgar Andie (Briana Evigan) yn cychwyn ar ei siwrnai i ffitio mewn i Ysgol y Celfyddydau Maryland. Yno, mae’n cyfarfod â Chase(Robert Hoffman), dawnsiwr gorau’r ysgol. Mae’r ffilm yn llwyfan ffantastig i’r criwiau ddangos eu sgiliau dawnsio slic. Mae’r awyrgylch yn ysgafn, mae’r brwdfrydedd yn cydio, ac mae’r symudiadau’n anodd eu credu.
|
Mwldan 2 |
PG |
98 munud |
|
|
|
childrenofglory
Mai 10 - 12 @ 6.00, 13, 15 @ 9.00 |
 |
CHILDREN OF GLORY (SZABADSÁG, SZERELEM)
Dyma ddrama hanesyddol brwd a bywiog am chwyldroadwyr Hwngari wrth iddynt ryfela yn erbyn eu gormeswyr Sofietaidd ym 1956. Fel nifer o ddynion ifainc, prif ddiddordebau Karcsi yw chwaraeon a rhyw. Ond wrth i wrthryfel y myfyrwyr yn erbyn gormes y Sofietaidd ddechrau dal gafael, mae ei fywyd dedwydd yn dechrau edrych yn llai sicr. Caiff ei gwestiynu gan yr heddlu cudd ar ôl taro canolwr Rwsaidd yn ystod gêm polo dŵr, ac nid yw ei swynion gwrywaidd yn cael effaith ar y Vicki tlws, sydd ond â diddordeb mewn dynion gyda chwildro yn eu gwaed. Ffilm hen ffasiwn ysblennydd, Hollywood ar ei orau - ni chewch eich siomi.
IS-DEITLAU
|
|
loveinthetimeofcholera
Mai 10 – 12 @ 8.40, 13, 15 @ 6.00 |
 |
LOVE IN THE TIME OF CHOLERA
Mae addasiad sinematig Mike Newell o nofel gymeradwyedig Gabriel Garcia Marquez yn cynnwys cast rhagorol a stori diamser. Fel dyn ifanc yng Ngholombia’r 19fed ganrif, mae Florentino Ariza (Javier Bardem ar ei orau) yn syrthio mewn cariad â merch brydferth, sef Fermina, ond mae ei thad oramddiffynnol, a gormod o realiti yn torri ar draws eu rhamant. Er bod Fermina yn priodi â doctor llwyddiannus, nid yw ei modrwy priodas na threigl amser yn ddigon i rwystro Florentino rhag ei charu, ac er ei fod yn cael carwriaethau gyda channoedd o ferched, nid yw ei nwyd tragwyddol byth yn syrffedu. Stori yw hon am ramant hanner canrif bydd yn sicr o dynnu ar dannau’r galon.
|
|
leatherheads
Mai 16 – 21 @ 6.20 |
 |
LEATHERHEADS
Mae’r enillwyr Oscar, George Clooney a Renée Zellweger, yn dod wyneb yn wyneb yn Leatherheads, comedi rhamantus slic wedi ei osod yn erbyn cefndir cynghrair pêl-droed proffesiynol ym 1925. Clooney sy’n chwarae rhan Dodge Connolly, arwr pêl-droed dymunol a haerllug sy’n benderfynol o arwain ei dîm oddi wrth glatsio mewn tafarn, i stadiwm orlawn. Ond ar ôl i’r chwaraewyr golli eu noddwr ac mae’r cynghrair cyfan yn wynebu chwalfa diau, mae Dodge yn perswadio seren pêl droed coleg i ymuno â’i griw simsan. Mae’r pencampwr hwn bron a bod yn rhy dda i’w gredu, ac mae’r newyddiadurwraig danbaid Lexie Littleton (Zellweger) yn mynd ati i brofi bod stori dda yn celu yno.
|
Mwldan 1 |
PG |
114 munud |
|
|
|
larsandtherealgirl
Mai 16 – 21 @ 9.00 |
 |
LARS AND THE REAL GIRL
Dyma stori ddigrif a theimladwy am ddyn y mae ei broblemau emosiynol wedi ei rhwystro rhag cydio yn llawn mewn bywyd. Ar ôl blynyddoedd o unigedd bron a bod, mae Lars yn gwahodd Bianca, ffrind wnaeth gyfarfod â hi ar y rhyngrwyd, i ymweld ag ef. Mae’n cyflwyno Bianca i’w frawd Gus a’i wraig Karen, sy’n cael eu syfrdanu, gan mai dol maint person go iawn yw Bianca, er bod Lars yn ei thrin fel ei bod yn berson byw. Yr hyn sy’n dilyn yw siwrnai emosiynol i Lars a’r bobl o’i gwmpas.
|
|
indianajonestbc
Mai 22, 23 @ 5.30 & 8.20, 24 – 31 @ 2.40, 5.30 & 8.20
Mehefin 1 @ 2.40, 5.30 & 8.20, 2 – 6 @ 5.30 & 8.20, 7, 8 @ 2.40, 5.30 & 8.20, 9 – 12 @ 5.30 & 8.20
|
 |
INDIANA JONES AND THE KINGDOM OF THE CRYSTAL SKULL
Mae’r cyfarwyddwr Steven Spielberg a’r sêr Harrison Ford a Karen Allen yn ôl ar gyfer y bedwaredd ffilm yng nghyfres Indiana Jones. Yn yr antur hwn, mae cast o sêr, gan gynnwys Ray Winstone, Shia LaBeouf, Cate Blanchett, John Hurt, and Jim Broadbent yn ymuno â nhw. Bu disgwyl mawr am hon felly paratowch eich hun am gyffro diben draw!
|
|
thebaker
Mai 25 @ 9.00, 27 – 29 @ 9.00 |
 |
THE BAKER
Ffilm a ganddi gysylltiadau Cymreig cryf, wedi ei ffilmio mewn amrywiaeth o leoliadau ar draws De Cymru. Mae dihiryn yn dianc o’i feistri ac yn cael gwaith mewn pentref Cymreig anghysbell lle gall guddio a gweithio fel pobydd. Wrth iddo gael ei dynnu i fywyd y pentref, mae’n syrthio mewn cariad, ond ni all ddianc o’i orffennol.
|
|
nimsisland
Mai 25, 27 – 29 @ 2.30, 30 @ 4.10
Mehefin 1 @ 4.10, 7, 8 @ 3.50, 15 @ 3.50
|
 |
NIM’S ISLAND
Gall unrhyw beth ddigwydd ar Ynys Nim, man hudolus lle mae pob dim yn rhedeg yn wyllt, yn enwedig y dychymyg. Yma, mae Nim, merch ifanc ewn, sy’n ffrindiau gyda anifeiliaid egsotig ac wedi ei hysbrydoli gan chwedlau a llyfrau, yn arwain bywyd trofannol anhygoel, sy’n adlewyrchu bywyd ei hoff cymeriad llenyddol: Alex Rover, anturiwr gorau’r byd. Mae Rover yn arwr i Nim, felly pan mae ei thad sy’n wyddonydd, a’r ynys fach ddirgel yn sydyn yn dod o dan fygythiad, mae’n ymestyn allan ar draws y môr mawr glas at grëwr ei arwr am help. Antur ffantasi, difyr ac ysbrydoledig i’r teulu cyfan, mae Nim’s Island yn ymwneud â ddod yn arwr eich stori chi eich hun. Gyda’r sêr Abigail Breslin, Jodie Foster a’r golygus Gerard Butler.
|
Mwldan 2 |
TBA |
tbc munud |
|
|
|
thespiderwickchronicles
Mai 25 @ 4.50, 26 @ 6.30, 27 – 29 @ 4.50 |
 |
THE SPIDERWICK CHRONICLES
Cyfle arall i weld yr addasiad serennog o’r gyfres ffantasi plant. Mae The Spiderwick Chronicles yn dilyn hanes y teulu Simon, Jared a Mallory Grace sy’n cael eu tynnu mewn i fyd o dylwyth teg a chreaduriaid eraill. Er bod y teulu yn gadael Efrog Newydd am gartref tawelach, mae cyffro pob amser wrth symud i’w cartref rhyfedd newydd yn y wlad, sef Ystad Spiderwick.
|
Mwldan 2 |
PG |
95 munud |
|
|
|
meetthespartans
Mai 25 @ 7.00, 26 @ 8.40, 27 – 29 @ 7.00 |
 |
MEET THE SPARTANS
Mae’r comedi parodi newydd hwn yn cymryd 300 fel ei brif darged, ond mae’n cynnwys nifer fwy o ffilmiau diweddar yn destunau chwerthin yn ogystal. Wedi ei eni i fod yn Spartan perffaith, mae Leonidas yn wynebu nifer o dreialon ar ei ffordd i fod yn ddyn, gan gynnwys gwrthdrawiad gyda’r pengwin o Happy Feet. A fydd Leonidas yn Frenin ac yn priodi’r tinboeth Margot? A all 13 dyn hanner noeth gyda chyhyrau wedi paentio arnynt wir drechu grymoedd Persia? Eisteddwch yn ôl i fwynhau gwneud hwyl ar bron a bod pob ffenomenon diwylliannol ac enwogion y byd pop diweddar. Mae na ddigonedd o hiwmor bras, ensyniadau brwnt a nifer o fechgyn hanner noeth!
|
Mwldan 2 |
12a |
83 munud |
|
|
|
forgettingsarahmarshall
Mai 30 @ 6.30 Mehefin 1, 2 @ 6.30, 3 – 5 @ 8.50 |
 |
FORGETTING SARAH MARSHALL
O grewyr The 40-Year-Old Virgin a Knocked Up daw ffilm ddifyr am gwest llafurus un dyn i aeddfedu a gwella o’r torcalon o gael ei adael – os gall ond a chymell ei hun i gychwyn y broses o Forgetting Sarah Marshall. Mae’r cerddor aflwyddiannus Peter Bretter wedi treulio chwe blynedd yn addoli ei gariad, y seren deledu Sarah Marshall. Ond mae ei fyd yn dymchwel ar ôl iddi ei adael, ac mae Peter ar ben ei hun. Os ych chi erioed wedi teimlo’ch calon yn rhwygo’n filoedd o ddarnau, yna bydd y comedi hwn, sef ffilm ramant drychinebus cyntaf y byd, yn plesio i’r eithaf.
|
Mwldan 2 |
TBA |
tbc munud |
|
|
|
whathappensinvegastbc
Mai 30 @ 8.50 Mehefin 1, 2 @ 8.50, 3 – 5 @ 6.30 |
 |
WHAT HAPPENS IN VEGAS
Mae dau ddieithryn yn dihuno gyda’i gilydd i ddarganfod eu bod wedi priodi’r noson gynt ar ôl noson wyllt yn Vegas. I gymhlethu pethau, mae un ohonynt wedi ennill Jacpot enfawr ar ôl gamblo gyda cheiniog y llall. Mae’r pâr priod yn dyfeisio cynllwynion fwy fwy cymhleth i geisio tanseilio’i gilydd a chael eu dwylo ar yr arian – ond wrth geisio fod yn drech na’i gilydd yn syrthio mewn cariad.
|
Mwldan 2 |
TBA |
tbc munud |
|
|
|
happygoluckytbc
Mehefin 6 – 10 @ 6.10, 15 – 18 @ 8.40 |
 |
HAPPY-GO-LUCKY
Mae’r cyfarwyddwr aruthrol Mike Leigh yn ôl gyda’i ffilm ddiweddaraf, drama gomedi gyda chymeriad canolog, Poppy, (perfformiad cymeradwyedig gan Sally Hawkins) sy’n wirioneddol hapus. Er mewn cywair llawer mwy ysgafn na’r rhan fwyaf o ffilmiau Leigh, mae Happy-Go-Lucky yr un cyfoeth seicolegol a dramatig ag erioed, ac mae’n bosib mai dyma’i waith mwyaf hoffus a phoblogaidd mor belled. Yn athrawes ysgol gynradd natur dda yn Llundain, mae Poppy yn gwneud y mwyaf o’i bywyd, boed yn clybio gyda’i chwaer bwdlyd Suzy, neu yn ymchwilio bywyd adar ar gyfer y dosbarth. Yn ymrwymedig ac yn dosturiol, mae’n gwybod yn gymwys sut i helpu disgybl ifanc, ac wrth wneud mae’n cyfarfod â Tim, gweithiwr cymdeithasol hoffus.
|
|
inbruges
Mehefin 6 – 10 @ 8.50 |
 |
IN BRUGES
Colin Farrell a Brendan Gleeson yw sêr y comedi hwn. Yn dilyn jobyn aeth yn gawlach yn Llundain, mae’r lladdwyr hur Gwyddelig, Ray a Ken yn cael eu hanfon i dref dawel Bruges yng Ngwlad Belg i aros am gyfarwyddiadau pellach wrth eu cyflogwr, Harry (Ralph Fiennes). Tra bod Ken yn ymweld â’r atyniadau, mae Ray yn ddiflas ac yn encilgar, yn siomedig â diffyg bywyd nos Bruges, ac yn llawn euogrwydd. Yn fuan mae Ray yn cyfarfod â Chloë, deliwr mewn cyffuriau amheus sy’n cyflenwi cyffuriau i gast ar set ffilm leol, gan gynnwys corrach sy’n ddibynnol ar gyffuriau (yr hynod ddifyr Peter Dinklage). Yn llawn rhyfeddodau, a chymeriadau hynodod. Mae hon yn ffilm wych gyntaf gan y dramodydd McDonagh (The Beauty Queen Of Leenane).
|
|
theincrediblehulktbc
Mehefin 13 @ 5.30 & 8.20, 14, 15 @ 2.40, 5.30 & 8.20, 16 – 20 @ 5.30 & 8.20, 21, 22 @ 2.40, 5.30 & 8.20, 23 – 26 @ 5.30 & 8.20 |
 |
THE INCREDIBLE HULK
Mae antur llawn cyffro saga un o’r archarwr mwyaf yn datblygu gyda grym cyntefig mwyaf ffyrnig. Mae’r gwyddonydd Bruce Banner (Edward Norton) yn byw yn y cysgodion, yn chwilio’r byd am wrthwenwyn. Ond mae’r rhyfelgwn sy’n breuddwydio am gam-drin ei bwerau yn pallu gadael llonydd iddo, na chwaith fydd ei ddymuniad o fod gyda’r unig ferch mae wedi ei charu erioed, Betty Ross (Liv Tyler). Ar ôl dychwelyd i wareiddiad, caiff ein doctor disglair ei erlid gan The Abomination (Tim Roth), creadur hunllefus, y llawn ffyrnigrwydd, a gyda grymoedd sy’n herio’r Hulk.
|
|
theoxfordmurders
Mehefin 15 – 18 @ 6.10 |
 |
THE OXFORD MURDERS
Elijah Wood a John Hurt sy’n serennu mewn ffilm gyffro’r cyfarwyddwr Alex de la Iglesia. Mae mathemategwr ifanc o’r Ariannin sy’n ymweld â Phrydain yn cael ei dynnu i ddirgelwch llofruddiaeth gymhleth ar ôl i’w letywraig farw’n greulon. Ym Mhrifysgol Rhydychen, mae Athro a myfyrwyr graddedig yn gweithio gyda’i gilydd i geisio atal cyfres o lofruddiaethau potensial sydd wedi eu cysylltu gan symbolau mathemategol.
|
|
sexandthecitytbc
Mehefin 20 @ 6.00 & 8.40, 21, 22 @ 3.20, 6.00 & 8.40, 23 – 26 @ 6.00 & 8.40, 27 @ 6.00 & 8.40, 28, 29 @ 3.20, 6.00 & 8.40, 30 @ 6.00 & 8.40 Gorffennaf 1 – 3 @ 6.00 & 8.40
|
 |
SEX AND THE CITY: THE MOVIE
Os ych chi wedi bod yn gweld eisiau nosweithiau ar y soffa’n bwyta siocled, yn aros am y newyddion diweddaraf am garwriaethau Carrie, helyntion diweddaraf Samantha a’r holl fanylion noeth dros brunch, yna dyma wledd ar eich cyfer. Mae’r merched o’r gyfres deledu fawr Sex and the City yn atgyfodi eu rolau wrth i’r ffilm ddod i’r sgrîn fawr gan roi’r parhad mae edmygwyr ym mhob man wedi bod yn disgwyl amdano. Mae Sarah Jessica Parker yn dychwelyd unwaith yn rhagor fel Carrie Bradshaw, y newyddiadurwraig steilus, y mae ei charwriaethau’n ffurfio prif ffocws y sioe. Yn atgyfodi eu rolau hefyd mae Kim Cattrall, Kristin Davis, a Cynthia Nixon.
|
|
princecaspiantbc
Mehefin 27 @ 5.30 & 8.20, 28, 29 @ 2.40, 5.30 & 8.20, 30 @ 5.30 & 8.20 Gorffennaf 1 – 4 @ 5.30 & 8.20, 5 @ 2.40, 5.30 & 8.20, 6 @ 7.30, 7
– 11 @ 5.30 & 8.20, 12, 13 @ 2.40, 5.30 & 8.20, 14 – 17 @ 5.30 & 8.20
|
 |
THE CHRONICLES OF NARNIA: PRINCE CASPIAN
Dyma’r ail ffilm yng nghyfres Narnia, yn dilyn The Lion, The Witch And The Wardrobe hynod lwyddiannus. Yn Prince Caspian gwelwn y brodyr a chwiorydd Pevensie yn dychwelyd i Narnia, lle mae canrifoedd wedi mynd heibio ers iddynt fod yna diwethaf, ac mae’r Brenin Miraz atgas sydd wrth y llyw. Gyda help llygoden arwrol, sef Reepicheep, ac etifedd yr orsedd Prince Caspian, sydd mewn alltud, maent yn mynd ati i ddymchwel y Brenin, unwaith eto, gyda chymorth Aslan. Antur heb ei ail i’r teulu cyfan!
|
|
kungfupandatbc
Gorffennaf 4 @ 5.50 & 8.00, 5,6 @ 1.30, 3.40, 5.50 & 8.00, 7 – 11 @ 5.50 & 8.00, 12, 13 @ 1.30, 3.40, 5.50 & 8.00, 14 – 17 @ 5.50 & 8.00, 18 @ 6.10, 19 - 24 @ 1.50, 4.00 & 6.10 |
 |
KUNG-FU PANDA
Dyma gomedi animeiddiedig cyfrifiadurol newydd sbon am banda dioglyd, sef Po,(llais Jack Black) sy’n gorfod rhyw ffordd ddod yn Feistr Kung Fu er mwyn achub y Dyffryn rhag y llewpard eira drwg, Tai Lung. Llawer o hwyl i bawb!
|
|
speedracertbc
Gorffennaf 18 – 24 @ 8.30 |
 |
SPEED RACER
Ar ôl llwyddiant ysgubol eu cyfres Matrix, mae’r brodyr Wachowski yn dychwelyd fel cyfarwyddwyr gyda’r addasiad hwn o’r cartŵn gwreiddiol. Yn rhuthro lawr y trac, yn sgrialu o gwmpas, dros ac heibio’r cystadleuaeth, mae Speed Racer yn naturiol tu ôl y llyw. Wedi ei eni i rasio ceir, mae Speed yn ymosodgar, yn reddfol, ac yn fwyaf oll, yn gwbl ddi-ofn. Ei unig gystadleuaeth go iawn yw cof am ei frawd, bu’n ei edmygu’n fawr iawn – yr enwog Rex Racer. Mae ei farwolaeth mewn ras wedi adael her y mae Speed yn teimlo bod rhaid iddo gyflawni. Emile Hirsch sydd wrth y llyw yn y car Mach 5 fel Speed, tra bod John Goodman a Susan Sarandon yn chwarae rhan ei rhieni.
|
|
walletbc
Gorffennaf 18 @ 5.30 & 8.10, 19 – 24 @ 2.40, 5.30 & 8.10 |
 |
WALL-E
Andrew Stanton | USA | 2008 | tbc’
Mae unrhyw ffilm animeiddiedig newydd gan Pixar yn ddigwyddiad pwysig! Mae’r diweddaraf mewn cyfres sy’n cynnwys Toy Story, The Incredibles a Finding Nemo, yn dychmygu bod dynolryw wedi ffoi’r ddaear, ond mae rhywun heb droi’r robot olaf i ffwrdd! Ar ôl canrifoedd unig o gyflawni ei rôl, mae WALL-E (yn fyr am Waste Allocation Load Lifter Earth-Class) yn darganfod pwrpas newydd mewn bywyd (ag eithrio casglu mân bethau) pan mae’n cyfarfod ag EVE, robot chwilio trawiadol.
|
|