theatr mwldan cardigan
perfformiadau byw

aesopsfablesDydd Gwener 9 Mai, 1.30 & 6.30yp
SCAMP THEATRE - AESOP'S FABLES

SCAMP THEATRE - AESOP'S FABLES

Wedi ysgrifennu gan gyn-fardd llawryfog y plant, Michael Morpurgo, mae chwedlau diamser Aesop wedi eu hehangu yn bortreadau miniog, ffraeth a theatraidd. Yn gymwys ar gyfer unrhyw un dros 5 oed, Chwedlau Aesop yw’r esiampl berffaith o sut i ddiddanu oedolion a phlant ar yr un pryd. Wrth i’r chwedlau cyfarwydd ddechrau (‘The Tortoise and the Hare’, ‘The Goose Who Lays The Golden Egg’ and ‘The Boy Who Cried Wolf’, ymhlith eraill), mae’n deyrnged fawr i Morpurgo a’r perfformwyr dawnus eu bod yn dal mor fyw. Mae tri actor, gan gynnwys fand un dyn, yn cydio gyda awch yn y chwedlau. Trwy newidiadau gwisg syml, maent yn meddiannu un cymeriad doniol ar ôl y llall, gan ddefnyddio cyfres o bropiau anarferol i greu effaith ddigrif iawn. Diddanwch grêt i’r teulu cyfan, ac un i’w argymell yn fawr iawn.

Mwldan 2 Tocyn: £6 (£5)
patrickstreetNos Fercher 14 Mai, 7.30yh
PATRICK STREET

PATRICK STREET

Gellir dadlau mai Patrick Street, pedwarawd o bencampwyr cerddoriaeth Gwyddelig cyffrous, yw’r “supergroup” sydd ar frig cerddoriaeth draddodiadol Wyddelig, gyda etifeddiaeth gerddorol yn ymestyn yn ôl i The Bothy Band a Planxty. Mae’r band serol wedi swyno edmygwyr a beirniaid ar draws y byd am yr ugain mlynedd diwethaf gyda’r hyn wnaeth y Boston Globe alw unwaith, yn "rare combination of breathtaking virtuosity and the relaxed grace of masters, playing this ancient music at its wild and humble best."

Caiff John Carty a Kevin Burke eu hystyried yn ddau o ffidleriaid gorau eu cenhedlaeth, ac maent yn cyfuno yma i gyflwyno setiau o alawon gwefreiddiol. Mae brawddegu dychmygus John a thôn sidanaidd Kevin yn portreadu llanw a thrai rhythmig, y gerddoriaeth sionc o Sir Sligo, bu’n rhan o fagwraeth y ddau. Ochr yn ochr â Burke a Carty saif cyn aelod Planxty, Andy Irvine. Mae ei drefniadau unigryw, chwarae meistrolgar y bouzouki a’r mandolin, a’i lais gwahanredol yn ei gadw ar flaen cerddoriaeth draddodiadol o hyd. Ar y llwyfan gyda’i gilydd, mae Patrick Street yn cyflwyno gwir flas cerddoriaeth Wyddelig, a’i dod yn fyw, gan sicrhau bod eu perfformiadau yn achlysuron i’w disgwyl ac i’w mwynhau mas draw.

Mwldan 2 Tocyn: £15 (£14)
tchalimbergergypsyorchestraNos Wener 16 Mai, 7.30yh
TCHA LIMBERGER’S BUDAPEST GYPSY ORCHESTRA

TCHA LIMBERGER’S BUDAPEST GYPSY ORCHESTRA

Credwch ni, dyma achlysur cerddorol o safon. Daw’r ffidler dawnus hwn, Tcha Limberger, o deulu enwog o gerddorion Sipsi. Mae’n chwarae nifer o offerynnau’n fedrus dros ben a chafodd ei fagu ar ddull jazz-Sipsi Django Reinhardt. Fe’i denwyd at gerddoriaeth sipsi Hwngari o oedran cynnar, a threuliodd tair blynedd yn astudio ei gwreiddiau ym Mwdapest. Nawr, yn 30 mlwydd oed, mae’n teithio gyda’r gerddorfa fechan hon o gerddorion Sipsi Bwdapest, ac nad oes yr un “Primas” yn chwarae ym Mwdapest sy’n ennyn y fath barch ag ef. Mewn gwir steil Band Sipsi Hwngaraidd, cyflwyna’r grŵp byliau o drasiedi gerddorol esgynnol a gwallgofrwydd czardas gyda nwyd a meistrolaeth dechnegol sy’n rhyfeddol.

Mwldan 2 Tocyn: £14 (£12)
newenglishcontemporaryballetNos Sadwrn 17 Mai, 7.30yh
NEW ENGLISH CONTEMPORARY BALLET

NEW ENGLISH CONTEMPORARY BALLET

Gyda sôn am eu perfformiadau meistrolgar disglair yn lledu, mae rhaglen newydd y New English Contemporary Ballet yn rhoi digon o gyfle i syfrdanu’r gynulleidfa. Mae S(c)ent Richard Wherlock, gyda’i deuawdau a thriawdau o ffurfiau llyfn coeth, yn rhoi sylfaen hardd a thelynegol i ddawnswyr y cwmni amlygu eu hyfedredd, tra bod comisiwn newydd gan y coreograffydd o’r Eidal, Davide Bombana, yn dod â blas gwahanredol neo-glasurol i’r sioe. Yn fentrus, yn ffres yn hyderus ac yn siwr o ddiddanu edmygwyr y bale a dawns gyfoes.

“An adventurous company not wanting to be restricted by labels…. The dancers show grace, balance and sublime control” The Stage

Mwldan 2 Tocyn: £12 (£10)
Nos Fawrth 20 Mai, 8yh £20 Pontardawe Arts Centre

Nos Fercher 21 Mai, 7.30yh The Point, Cardiff
Tinariwen (Mali) + Justin Adams & Juldeh Camara

Tinariwen (Mali) + Justin Adams & Juldeh Camara

A Pontardawe Arts Centre / Push4 / Taliesin Arts Centre / Theatr Mwldan Co-Production

Bws i weld Tinariwen!

Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein bod yn trefnu bws o Theatr Mwldan i fynd i weld Tinariwen yn perfformio yng Nghanolfan Celfyddydau Pontardawe ar 20 Mai. Bydd y bws yn gadael Theatr Mwldan am 6yh ar 20 Mai, ac yn dychwelyd o Bontardawe ar ôl y gig (yn gadael tua 11.30yh). Mae tocynnau’n £25 ac yn cynnwys mynediad a chost y bws. Gwerthwn y tocynnau i’r rhai cyntaf i dalu, ac nid oes modd derbyn ad-daliad arnynt. Dyma’r tro cyntaf mae Tinariwen wedi teithio yng Nghymru a rydym ni yn Theatr Mwldan wrth ein boddau i fod yn rhan o’r tîm cynhyrchu ar gyfer yr hyn sy’n argoeli i fod yn noson benigamp.

Ymddangosodd Tinariwen o anialwch y Sahara yn 2002, ac ers hynny maent wedi cipio sylw edmygwyr cerddoriaeth byd a roc, wedi gwneud cryn argraff ar y siartiau albwm, wedi creu storm o gymeradwyaeth feirniadol ac wedi llwyfannu perfformiadau byw disglair. Mae eu gitarau electrig swynol, rhythmau tonnog a’u sain sych fel yr anialwch yn creu profiad cerddorol aruthrol.

Bu gwrthryfel a roc a rôl yn cerdded law yn law am fwy na hanner canrif, ond yn anaml iawn mae eu hundeb wedi cynnwys arfau go iawn ac ymryson poenus am fywyd. Yn yr 1990au cynnar, bu Tinariwen yn ymladd gwrthryfel yn erbyn llywodraeth Mali i ennill fwy o ryddid a hunanbenderfyniaeth i bobl y Touareg yn ne’r Sahara. Bu’r frwydr yn fan cychwyn i fath newydd sbon o gerddoriaeth yr anialwch, wedi ei chreu gan Tinariwen. Ers hynny maent wedi defnyddio’r gerddoriaeth i gludo eu neges o falchder yn yr anialwch a goroesiad i bedwar ban y byd. Un o’r seiniau mwyaf swynol i ddeillio o Affrica ers blynyddoedd. Mae casglu edmygwyr enwog, o Robert Plant i Thom Yorke o Radiohead, yn ogystal â chefnogi The Rolling Stones, wedi llwyddo i ddyrchafu eu statws fel sêr roc yn uwch o lawer, ac mae albymau diweddar wedi derbyn adolygiadau pedair a phum seren yn y wasg roc ac yn y cyfryngau rhyngwladol.

Mae gan Justin Adams, sef ateb y DU i Ry Cooder, wybodaeth heb ei ail o’r blues ac o arddulliau Affricanaidd. Mae wedi cyd-gyfansoddi Mighty Rearranger gan Robert Plant, ac wedi cynhyrchu dau o albymau Tinariwen. Yn ymuno ag Adams fydd Juldeh Camara, griot o’r Gambia a phrif gerddor sy’n chwarae’r ritti, ffidil ag iddi un llinyn. Caiff rhythmau llesmeiriol dwfn a hynafol eu cyfuno â chlecian trydanol roc a rôl a blues yr anialwch.



Mae’n bleser gan Theatr Mwldan weithio mewn partneriaeth â Chanolfan Celfyddydau Pontardawe, Canolfan Celfyddydau Taliesin, a Push4 i gyflwyno Tinariwen am y tro cyntaf yng Nghymru. Caiff y digwyddiad hwn ei gefnogi gan gynllun y Celfyddydau tu Allan i Gaerdydd, a’i ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru trwy law Cyngor Celfyddyd Cymru.

Tocyn: £20
operateifispring8Nos Fercher 21 - Nos Sadwrn 24 Mai, 7.30yh
CYNHYRCHIAD GWANWYN 2008 OPERA TEIFI

CYNHYRCHIAD GWANWYN 2008 OPERA TEIFI

Yn wahanol i’r arfer, bydd cynhyrchiad Gwanwyn 2008 Opera Teifi yn noson o ddau hanner. I gychwyn cawn ymweliad â’r sŵ, campwaith comig un act gan Arthur Sullivan, lle byddwn yn dilyn hynt a helynt Aesculapius Carboy o’r stondin lluniaeth i’r pwll eirth fel arfer, mewn byd ffolineb cerddorol, ‘does dim fel mae’n ymddangos i gychwyn. Yna cawn bleser amrywiaeth o berfformwyr Opera Teifi, yn cyflwyno ystod o ganeuon sy’n amlygu doniau cerddorol y gymdeithas.

Hyrwyddir gan Opera Teifi

Mwldan 2 Tocyn: £8
themanwhoplantedtreesDydd Llun 26 Mai | Monday 26 May, 2.00pm/yp
PUPPET STATE THEATRE COMPANY<br>THE MAN WHO PLANTED TREES

PUPPET STATE THEATRE COMPANY
THE MAN WHO PLANTED TREES

Argymhellwn addasiad pypedwaith aml-synhwyraidd, hudol, doniol a gafaelgar o glasurwaith cwlt amgylcheddol Jean Giono. Mae bugail Ffrengig yn mynd ati gyda’i gi i blannu coedwig a thrawsnewid tir diffaith. Cyfuniad unigryw a chofiadwy o gomedi a chwedleua symbylol.

www.puppetstate.com

Addas ar gyfer oedolion a phlant o 5 oed i fyny.

Mwldan 2 Tocyn: £6 (£5)
thepindropbandNos Sadwrn 31 Mai, 7.30yh
THE PINDROP BAND

THE PINDROP BAND

Croeso yn ôl i’r Pindrop Band, sy’n cyflwyno noson o “Antur Acwstig” i chi, wedi perfformio, fel mae’r enw’n crybwyll, gyda uchder sain ni fydd yn ymosod ar eich clustiau! Yn hytrach mae’r grym yn y chwarae, yn y canu ac yn y cyfansoddi. Mae’r band naw darn hwn o Fryste yn adnabyddus am y nifer sylweddol o offerynnau maent yn chwarae, rhai ohonynt wedi eu creu ganddynt. Disgwyliwch “tinklele”, cyfuniad o ukelele a thun olew olewydd, gitarau o dun, yn ogystal â’r Delyn Geltaidd, ‘Lap Steel’, Acordion, Mandolin a llond côl o syrpreisys acwstig. Daw Piers Partridge, arweinydd y band, o ardal Aberteifi’n wreiddiol ac mae caneuon megis “Ceibwr Bay”yn bwrw yn ôl at blentyndod ar arfordir y Gorllewin.

Mwldan 2 Tocyn: £8.50
twmsioncatiDydd Mawrth 17 Mehefin, 1.30yp
CWMNI THEATR ARAD GOCH - TWM SIÔN CATI

CWMNI THEATR ARAD GOCH - TWM SIÔN CATI

Stori ramantus y ‘Robin Hood Cymreig’ wedi ei chyflwyno’n fywiog gan Gwmni Theatr Arad Goch sy’n arbenigo mewn theatr i blant a phobl ifanc. Bydd hwn yn gynhyrchiad llawn campau, castau a cherddoriaeth wrth i stori anhygoel yr arwr gwerinol o Dregaron gael ei datgelu. Cawn ein cipio’n ôl i’r 16 ganrif – i briffyrdd llawn lladron a pheryglon a’n llonni wrth i’n harwr helpu’r tlawd a’r anghenus. Pwy na all hoffi cymeriad drygionus fel Twm, yn enwedig os yw hwnnw’n ymladd dros ei gymuned yn erbyn anghyfiawnder a gorthrwm. Heb os mae Twm yn rhan o’n hetifeddiaeth – dewch a’r plant i ddysgu ychydig am hanes a diwylliant Cymru – ond yn fwy na dim i fwynhau awr o theatr difyr dros ben.

Yn addas i blant 7-11 oed.

Mwldan 2 Tocyn: £5
katzenjammerNos Iau 19 Mehefin 7.30yh
KATZENJAMMER

KATZENJAMMER

‘With Four Hands on One Piano’, mae’r eithriadol Katzenjammer yn ddeuawd piano gyda gwahaniaeth. Mae Kevin Farrell a Steven Worbey sy’n bianyddion clasurol ac yn ysgrifenwyr caneuon digrif, wedi datblygu steil unigryw, meistrolgar ac acrobatig o berfformio, gallwn ond ei ddisgrifio’n fawreddog, yn hynod ddigrif ac yn ddiddanol tu hwnt. Gyda thwist modern ar genre traddodiadol, byddant yn eich syfrdanu gyda’u trefniadau personol o Liszt, wedi ysbrydoli gan Tom & Jerry, Tchaikovsky, sy’n dipyn o reiat, a byddant yn gwneud i chwerthin wrth iddynt gyfuno eich hoff gerddoriaeth glasurol gyda’ch hoff draciau tafarn! Gyda’r dryswch canlynol o freichiau a dwylo, caiff y bysellfwrdd ei thaflunio ar sgrîn fawr i chi gael rhyfeddu at gampau gymnasteg hypnotig eu chwarae.

Mwldan 2 Tocyn: £13 (£11)
fashionforthefutureDydd Sul 6 Gorffennaf, 4.00yh
FFASIWN I’R DYFODOL

FFASIWN I’R DYFODOL

Mae Ffasiwn Nad yw’n Costio’r Ddaear yn ôl gyda sioe newydd cyffrous. Bydd yn cynnwys gwisgoedd unigryw o ddeunyddiau wedi eu hailgylchu ac sy’n gynaliadwy, wedi eu creu gan bobl ifainc o Goleg Ceredigion, ysgolion lleol, grwpiau cymunedol ac unigolion eraill. Caiff gwisgoedd eu gwerthu mewn arwerthiant ar ôl y sioe gyda’r elw eleni yn mynd tuag at Ganolfan Blant Jigso, am fwy o wybodaeth cysylltwch â Sarah ar 07779 312819.
Hyrwyddir gan Ymlaen Ceredigion

Mwldan 2 Tocyn: £4 (£2)
themerrywivesofwindsorNos Wener 25 Gorffenaf, 7.30yh
ILLYRIA<br>THE MERRY WIVES OF WINDSOR

ILLYRIA
THE MERRY WIVES OF WINDSOR

Gan William Shakespeare



OUTDOOR PERFORMANCES AT THE WELSH WILDLIFE CENTRE

Yn ôl pob sôn roedd y Frenhines Elisabeth I mor hoff o gymeriad Falstaff, y marchog tew anniwair, fel y gofynnodd i Shakespeare ysgrifennu ddrama lle mae’n syrthio dros ei ben a‘i glustiau mewn cariad. Yn ddeiliad ffyddlon i’w Frenhines, gwnaeth Shakespeare yr hyn a ofynnwyd iddo– ond heb fodloni ar hyn, ysgrifennodd ddrama sy’n gweld Falstaff yn ymserchu nid unwaith, ond DWY WAITH – ar yr un pryd, gyda dwy wraig sy’n digwydd bod yn ffrindiau gorau.

Y canlyniad yw The Merry Wives Of Windsor gyda Falstaff yn anfon llythyrau caru o’r unfath i Mrs Page ac i Mrs Ford. Mae’r gwragedd yn sylweddoli mai bwriadau amheus sydd gan Falstaff, ac yn mynd ati i’w frawychu yn y dulliau mwyaf eithafol. Mae Mr Ford yn genfigennus ac yn dechrau amau ymddygiad ei wraig ac yn cymryd yn ganiataol bod ganddi gariad. Yn y cyfamser, mae Mr Page, wrthi’n brysur yn trefnu priodas ei ferch Anne i’r gŵr o’i ddewis ef.

A fydd Anne Page yn cael priodi’r gwr o’i dewis hi? Pam fod yna ornest rhwng meddyg Ffrengig ac Offeiriad Cymreig? A pham ar y ddaear fod ‘na griw o Almaenwyr yn rhacsio’r holl ystafelloedd gwesty yn The Garter? Daw pob dim yn hollol amlwg – ond nid cyn i Falstaff gael ei drochi yn yr afon, mewn gwisg gwrach, ei guro gyda phastwn a’i roi ar dân.

Mae’r cwmni Illyria, sydd wedi ennill llu o wobrau rhyngwladol yn dychwelyd at ei wreiddiau - Shakespeare ar ei fwyaf bywiog a chwerthinllyd. Yn deilwng, mae gan y cwmni enw da heb ei ail am eglurder a gwreiddioldeb ei ddull comig Elisabethaidd. Difyrrwch o’r radd flaenaf, paratowch i chwerthin fel erioed o’r blaen!

GWYBODAETH ANGENRHEIDIOL

Mae Theatr Mwldan yn cyflwyno ei pherfformiadau awyr agored traddodiadol yng Nghanolfan Natur Cymru, Cilgerran mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru. Caiff y perfformiadau eu cyflwyno ar safle sydd â golygfeydd eang o Gorstiroedd Afon Teifi, yn gyferbyn ag adeilad y Ganolfan Natur sy’n cynnig prydau bwyd a lluniaeth yng Nghaffi’r Tŷ Gwydr, yn ogystal â siop anrhegion a thai bach.

Bydd nifer cyfyngedig o seddau ar gael ar gyfer y perfformiadau hyn – dewch â’ch seddau cefnau isel eich hun neu flanced a dillad cynnes. Bydd Caffi’r Tŷ Gwydr ar agor ar gyfer prydau bwyd cyn y sioe (bwciwch ar 01239 621600) neu dewch â phicnic i’w fwynhau! Bydd y Ganolfan Natur ar agor dwy awr a hanner cyn y perfformiad; cewch fynediad i safle’r perfformiad ar gyfer picnic awr cyn y sioe.

Bydd y perfformiadau yn parhau ymhob tywydd ond y gwaethaf. Ni ad-delir tocynnau. Bydd parcio am ddim ar gael yn y Ganolfan Natur. Mae mynediad cadair olwyn i’r safle perfformiad. Mwy o wybodaeth o Swyddfa Docynnau Theatr Mwldan.

Welsh Wildlife Centre

Tocyn: £9 (£8)
pinocchioDydd Sul 17 Awst, 4.00yp
ILLYRIA<br>PINOCCHIO

ILLYRIA
PINOCCHIO

Gan Carlo Collodi

OUTDOOR PERFORMANCES AT THE WELSH WILDLIFE CENTRE

Mae pawb yn meddwl eu bod yn gwybod stori Pinocchio ond anghofiwch am Disney! Mae cynhyrchiad Illyria wedi seilio’n gyfan gwbl ar gampwaith comig tywyll Carlo Collodi i oedolion a phlant dewr.

Mae Geppetto’r saer yn cerfio pyped o’r enw Pinocchio o ddarn o bren, ond mae’r Pinocchio cyfrwys yn cael pwl o dymer ac yn llwyddo i gael Geppetto wedi ei garcharu am greulondeb. Yn rhydd i wneud fel y mynno, mae Pinocchio yn ymuno â theatr, yn gwastraffu arian ei dad, yn cael ei erlid gan lofruddwyr a bron iawn ei grogi. Yn benderfynol o gael bywyd yn llawn antur, mae’n gadael Geppetto mewn tlodi, yn gadael i’r Tylwyth Teg Gwallt Glas i farw o alar, ac yn stampio ar y criciedyn sy’n ceisio cynnig cyngor da iddo. Yn y pendraw, mae’n cael ei hun yng Ngwlad y Teganau, lle mae plant drwg yn rhedeg yn wyllt – ond yn troi’n asynnod. Ar hyd ei oes, mae Pinocchio wedi ysu am fod yn fachgen go iawn, ond beth fydd yn rhaid iddo aberthu cyn iddo hefyd droi’n asyn?

Mae stori ryfeddol Collodi am wneud yn iawn hefyd yn watwar doniol ar aeddfedu – a bydd plant ac oedolion yn adnabod y realiti sy’n llechu tu ôl i ddarnau o’r ddrama. Gan gynnwys actor arweiniol sydd â thrwyn sydd wir y tyfu, a siarc 20 troedfedd, mae Pinocchio Illyria yn addas ar gyfer pawb sy’n 5 oed ac yn hŷn.

GWYBODAETH ANGENRHEIDIOL

Mae Theatr Mwldan yn cyflwyno ei pherfformiadau awyr agored traddodiadol yng Nghanolfan Natur Cymru, Cilgerran mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru. Caiff y perfformiadau eu cyflwyno ar safle sydd â golygfeydd eang o Gorstiroedd Afon Teifi, yn gyferbyn ag adeilad y Ganolfan Natur sy’n cynnig prydau bwyd a lluniaeth yng Nghaffi’r Tŷ Gwydr, yn ogystal â siop anrhegion a thai bach.

Bydd nifer cyfyngedig o seddau ar gael ar gyfer y perfformiadau hyn – dewch â’ch seddau cefnau isel eich hun neu flanced a dillad cynnes. Bydd Caffi’r Tŷ Gwydr ar agor ar gyfer prydau bwyd cyn y sioe (bwciwch ar 01239 621600) neu dewch â phicnic i’w fwynhau! Bydd y Ganolfan Natur ar agor dwy awr a hanner cyn y perfformiad; cewch fynediad i safle’r perfformiad ar gyfer picnic awr cyn y sioe.

Bydd y perfformiadau yn parhau ymhob tywydd ond y gwaethaf. Ni ad-delir tocynnau. Bydd parcio am ddim ar gael yn y Ganolfan Natur. Mae mynediad cadair olwyn i’r safle perfformiad. Mwy o wybodaeth o Swyddfa Docynnau Theatr Mwldan.

Welsh Wildlife Centre

Tocyn: £9 (£8)

Tocyn Grŵp £8 i bob person am 4 neu fwy o docynnau a brynwyd gyda'i gilydd
Group Ticket £8 per person for 4 or more tickets purchased together
cardigantheatresummer8Nos Iau 28, Nos Wener 29, Nos Sadwrn 30 Awst 7.30yh
CARDIGAN THEATRE<br>SUMMER PRODUCTION

CARDIGAN THEATRE
SUMMER PRODUCTION

Mae Cardigan Theatre, cwmni theatr gymunedol leol, yn cyflwyno’r cynhyrchiad haf blynyddol. Fel arfer, mae Cardigan Theatr yn ceisio cyflwyno talent ifanc a thalent ychydig yn fwy aeddfed i’r llwyfan yn Theatr Mwldan, yn ogystal â wynebau mwy cyfarwydd.

Hyrwyddir gan Cardigan Theatre

Mwldan 2 Tocyn: £6 (£4)
karenmathesonNos Wener 5 Medi 7.30yh
KAREN MATHESON

KAREN MATHESON

"spellbinding and evocative... she takes folk music to a celestial high" New York Times

Disgrifiodd Sean Connery Karen Matheson fel rhywun sy’n meddu ar "a throat surely touched by the hand of God" a chafodd ei disgrifio gan gylchgrawn Billboard fel "the finest Gaelic singer alive today...". Serch hyn dyma ond rhan o stori anhygoel y gantores ar flaen y sîn cerddoriaeth Geltaidd. Mae ei halbwm newydd Downriver wedi ei ysbrydoli’n bennaf gan y caneuon Gwyddelig a chafodd yn ystod ei magwraeth, ac sy’n bennaf yn gerddorol, gan adael gwagle i’r llais sydd wedi swyno cynulleidfaoedd ar draws y byd. Mae Karen wedi mwynhau gyrfa serol fel prif gantores y grŵp enwog Celtaidd, Capercaillie, “the most exciting and vibrant band in the field of Celtic music today” (Billboard), gyda’r band yn gwerthu dros filiwn albwm ar draws y byd. Ym 1995, ysgrifennodd, recordiodd ac ymddangosodd Capercaillie yn y ffilm lwyddiannus Rob Roy, gyda Liam Neeson a Jessica Lange, gyda Karen yn perfformio unawd o alarnad Gaeleg ynddi.

Derbyniodd Karen OBE yn rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2006, cyflawniad rhyfeddol i ychwanegu at ei gwobr o “Gantores Gaeleg Orau” yng Ngwobrau Gwerin yr Albanaidd cyntaf. Fel perfformwraig unigol, bu’n ymwneud â phrosiectau cydweithio amrywiol gan gynnwys y gyfres BBC a enillodd gwobrau, sef Transatlantic Sessions, pan recordiodd traciau gyda Emmylou Harris, The McGarrigle Sisters, Nanci Griffith, Rufus Wainright a nifer eraill o gerddorion uchel eu parch.

“a gorgeous, understated gem” HMV Choice on Downriver

“A glorious capturing of a singer in her prime” Irish Times

“...remarkable in English but breathtaking when she draws on Hebridean roots to sing in Gaelic.” The Daily Telegraph

“Karen Matheson’s vocals are the coolest - swirling and slamming - amazingly dynamic.” NME

Karen’s website: www.karenmatheson.com

Mwldan 2 Tocyn: £14 (£13)
thedeathandlifeofNos Iau 11 Medi, 7.30yh
THE JAY PRODUCTIONS - THE DEATH AND LIFE OF SHERLOCK HOLMES

THE JAY PRODUCTIONS - THE DEATH AND LIFE OF SHERLOCK HOLMES

Diweddglo dramatig….dychweliad disglair! Mae Ditectif Gorau’r Byd yn gwrthod gadael y llwyfan!

Mae Arthur Conan Doyle yn syrffedu ar ei dditectif enwog ac yn defnyddio’r dihiryn Moriarty i gael ei wared. Ond tra bod galw ar ysbrydion y meirw yn dod yn obsesiwn ym bywyd Doyle ei hun, felly hefyd mae ei greadigaethau llenyddol yn dychwelyd i’n diddori a’n syfrdanu.

Chwedl ddifyr am lofruddiaeth, dirgelwch a’r goruwchnaturiol.

Yn dilyn ei lwyddiant rhyngwladol yn Sherlock Holmes… the last act! Mae Roger Llewellyn yn dychwelyd fel y ditectif llwyddiannus yn y ddrama afaelgar hon.

Ysgrifennwyd gan David Stuart Davies, cyfarwyddwyd gan Gareth Armstrong, gyda sgôr gwreiddiol gan Simon

‘Holmes as you’ve always imagined him - but with a cutting sense of humour’. Sunday Express

‘Llewellyn is a top-notch British actor, this is the finest, most fully realised one-man show I’ve ever seen’. Montreal Gazette

‘Llewellyn gives a flawless rendition of Holmes' sharp, complicated observations, with great wit & little maliciousness. He will seem real for even the most fanatical Holmesian : a charming & convincing Holmes, one full of shimmering sidelights, with a conviction and a precision that is a delight to behold’. West New York Daily Press

www.rogerllewellyn.co.uk

Mwldan 2 Tocyn: £12 (£10)
cherishtheladiesNos Wener 12 Medi, 8.00yh
CHERISH THE LADIES

CHERISH THE LADIES

Wedi enwi ar ôl hen jig Gwyddelig traddodiadol, mae Cherish The Ladies yn adnabyddus fel un o’r grwpiau mwyaf dymunol o fewn cerddoriaeth Wyddelig. Wedi ei ffurfio’n wreiddiol ugain mlynedd yn ôl yn gysyniad unigryw, mae Cherish The Ladies wedi tyfu’n gynnwrf o gerddoriaeth Wyddelig draddodiadol, yn llythrennol, y grŵp Gwyddelig-Americanaidd mwyaf llwyddiannus a phoblogaidd mewn hanes cerddoriaeth Wyddelig. Dros y blynyddoedd, mae’r grŵp wedi chwarae mewn gwyliau a chyngherddau ar draws y byd, gan rannu llwyfannau gyda artistiaid megis James Taylor, Joan Baez, Emmy Lou Harris a The Chieftains, i enwi ond ychydig.

Mae acolâdau niferus y band yn cynnwys Grŵp Adloniant y Flwyddyn (Papur Newydd Irish Voice) a Gwobr Grŵp Rhyngwladol y Flwyddyn (Celtic Connections mawreddog Glasgow). Yn Ionawr perfformiodd y band yn Celtic Connections am y13eg waith mewn hanes 15eg mlynedd yr Ŵyl, i gynulleidfa dan ei sang yn y Brif Awditoriwm yn y Neuadd Gyngerdd Frenhinol.

Mae Cherish The Ladies yn unigryw gan mai band cerddoriaeth Wyddelig draddodiadol ydyw sy’n cynnwys merched yn unig, sydd yn unigol ag angerdd a dealltwriaeth ddofn o gerddoriaeth draddodiadol. Mae hyn yn amlwg mewn pob perfformiad, gyda jigiau, riliau, polcas a jigiau slip yn cael eu cyflwyno gyda dawn gerddorol a chanu aruthrol, ac ymddangosiad dawnswyr Gwyddelig o’r radd flaenaf.

www.cherishtheladies.com

Tocyn: £15 (£14)
iesuNos Fercher 17 – Nos Wener 19/Sadwrn 20 Medi (TBC), 7.30yh
THEATR GENEDLAETHOL CYMRU presents <br>IESU!

THEATR GENEDLAETHOL CYMRU presents
IESU!

Drama newydd ddadleuol gan Aled Jones Williams Mater gwleidyddol yw crefydd bellach, wedi trasiedi Efrog Newydd a rhyfeloedd y Dwyrain Canol.Wedi ei leoli yn y presennol. bydd 'Iesu!' yn edrych, o'r newydd, ar gymeriad hanesyddol pwysig mewn sefyllfa gyfoes. Cyfarwyddwr - Cefin Roberts

Mwldan 2 Tocyn: £9 (£8) ysgolion £7.50
sleepingbeautyNos Wener 26 Medi, 7.30yh Nos Sadwrn 27 Medi 2.30yh & 7.30yh
EUROPEAN BALLET<br>SLEEPING BEAUTY

EUROPEAN BALLET
SLEEPING BEAUTY

Bale Clasurol mewn Tair Act
Dyma Fale Ewropeaidd ar ei orau yn cyflwyno’r clasur mwyaf hyfryd sef The Sleeping Beauty. O dan gyfarwyddyd Stanislav Tchassov, cyn Brif Ddawnsiwr gyda Bale Bolshoi, mae’r cwmni cyffrous a deinamig hwn o ddawnswyr o’r radd flaenaf wedi ennill edmygedd cynulleidfaoedd a beirniaid am ei ymrwymiad i safonau artistig rhagorol ac am ymroddiad ac egni ei ddawnswyr medrus.

Bydd dawnswyr uchel eu parch o Rwsia, Ffrainc, yr Eidal, yr Almaen, Bwlgaria, Sbaen a Phrydain yn perfformio yn y cynhyrchiad hyfryd hwn.

Wedi ei seilio ar stori tylwyth teg Charles Perrault, mae’r bale yn ymwneud â Thywysoges hardd wedi ei rhwymo gan swyn tylwyth teg drwg i gysgu am ganrif. Gellir ond ei dihuno gyda chusan gan Dywysog deniadol. Mae’r bale yn llawn trysorau: Lilac Fairy, Rose Adagio, Bluebird a chast o gymeriadau tylwyth teg wedi eu casglu ymhlith ar gyfer y dathliad priodas disglair ar y diwedd.

Mae setiau lliwgar, gwisgoedd moethus a sgôr ardderchog Tchaikovsky yn sicrhau bod y bale hwn yn ffefryn gan bawb o bob oed.

Music: Piotr I. Tchaikovsky Choreography: Marius Petipa Staged and adapted by: Stanislav Tchassov

'World class stuff,..Bravo!' Lichfield Post

'Splendid and enjoyable production' Worthing Herald

'Captivating performance,..Superb!' Newark Advertiser

Mwldan 2 Tocyn: £14 (£12)
canterburytalesNos Wener 3, Nos Sadwrn 4 Hydref 7.30yh
CANTERBURY TALES

CANTERBURY TALES

CYD-GYNHYRCHIAD MAPPA MUNDI | THEATR MWLDAN CO-PRODUCTION
MAPPA MUNDI THEATRE COMPANY


Yn agor yn y Mwldan cyn taith llawn o Brydain, Mae adfywiad newydd Mappa Mundi o’i sioe hynod boblogaidd yn cymryd gwaith clasurol Geoffrey Chaucer a’i lwyfannu fel adloniant dramatig a digri yn llawn ffraethineb a chyfaredd. Ar eu pererindod flynyddol i Ganterbury, mae criw o werin Cymreig yn pasio’r amser yn perfformio rhai o straeon mwyaf apelgar Chaucer, yn llanw’r llwyfan gyda chymysgedd o gomedi bywiog, rhamant a delweddau deniadol. Mae’r sioe yn cynnwys rhai o straeon mwyaf hoffus Chaucer (gan gynnwys The Miller’s Tale, The Nun’s Priest’s Tale a The Wife of Bath’s Tale), ynghyd â sgôr hyfryd. Yn berffaith ar gyfer pawb sy’n mwynhau hiwmor bras a stori dda, mae Canterbury Tales yn adloniant swynol, sy’n symud yn gyflym ac sy’n siŵr o’ch cyffroi!

Yn addas i gynulleidfaoedd dros 12 mlwydd oed.

Bydd noson bleserus ac ychydig yn ddrygionus o’ch blaen wrth i Mappa Mundi cymryd i’r ffordd gyda’r addasiad hwn o waith mwyaf adnabyddus llên ganoloesol.

Mwldan 2 Tocyn: £12 (£10)
billycobhamasereNos Lun 6 Hydref, 8.00yh
BILLY COBHAM AND ASERE

BILLY COBHAM AND ASERE

CYD-GYNHYRCHIAD ASTAR | THEATR MWLDAN CO-PRODUCTION
PART STANDING FORMAT


Mae’r prosiect hynod llwyddiannus Billy Cobham & Asere yn parhau – i gyd o ganlyniad i rôl cyd-gynhyrchu’r Mwldan o dan aden prosiect llwyddiannus y Celfyddydau tu allan i Gaerdydd! Yn dathlu rhyddhau eu halbwm stiwdio cyntaf ac fel rhan o daith eang o Brydain, dyma gyfle arall i weld y ffenomena syfrdanol sef drymiwr gorau’r byd sydd ohoni, Billy Cobham, yn ailddarganfod ei wreiddiau Lladin gyda band ifanc deinamig gwych o Giwba, Asere. Ganwyd Billy Cobham ym Mhanama a phan yn dair blwydd oed symudodd gyda’i rieni i Efrog Newydd. Erbyn hyn, mae’n un o enwogion y byd cerddorol, a chaiff ei ystyried yn un o’r drymwyr gorau erioed gyda edmygwyr ffyddlon a niferus led led y byd. Mae stori Billy Cobham mor faith nes iddo rychwantu degawdau a chynnwys cydweithrediadau gyda rhestr drwyadl o enwogion miwsig modern - Miles Davies, Stan Getz, George Benson, Roberta Flack, John McLaughlin, Jack Bruce, Tito Puente, Herbie Hancock. Mae dehongliad rhagorol Asere o draddodiadau cerddorol Ciwba wedi creu repertoire creadigol, arloesol, mewn dull sy’n talu teyrnged i’w rhagflaenwyr, ond sydd ag awch cyfoes cyffrous ei hun, ysgrifennu dyfeisgar a rhythm dwys. Rhowch Billy Cobham ac Asere ynghyd, a bydd gennych rywbeth arbennig iawn, perthynas gerddorol tanbaid wedi ei thanio gan barch, natur ddigymell a phleser. Mae’n brofiad bydd yn codi’ch ysbryd i’r entrychion yn llawn cynhesrwydd, i’r cerddorion ac i’r gynulleidfa, ac yn fythgofiadwy!

Mwldan 2 Tocyn: £15 (£14)
themikedoyleshowNos Wener 10 Hydref, 7.30yh
THE MIKE DOYLE SHOW

THE MIKE DOYLE SHOW

Yn ôl o ganlyniad i’w boblogrwydd, mae’r ffantastig Mike Doyle mewn cyngerdd! Gallwn sicrhau noson o gomedi pur gyda llais rhyfeddol Diddanwr Gorau Cymru. Mae’r digrifwr, sydd wedi ennill gwobrau, seren y West End a Theledu’r BBC yn cyflwyno noson o ragoriaeth gerddorol a chwerthin bydd yn eich siglo i’r craidd!

Peidiwch â cholli ei sioe orau – erioed!!
Incredible! ....received a 12 minute standing ovation, no wonder they call him the UK’s best all round entertainer” The Western Mail
“90 minutes of action that brought the deserved standing ovation” John Hannan, The Stage

Mwldan 2 Tocyn: £17 (£16)
lisaknappNos Iau 16 Hydref, 7.30yh
LISA KNAPP

LISA KNAPP

Wed ei henwebu ar gyfer dwy Wobr Gwerin BBC yn 2008 a daliwr albwm gwerin y flwyddyn Mojo 2007, mae Lisa Knapp wedi ffrwydro’i ffordd i amlygrwydd ar sîn gwerin bywiog, gyda’i albwm cyntaf Wild And Undaunted yn 2007. Mae ei ailwampio unigryw o ganeuon traddodiadol, gyda sblash o ysgrifennu gwreiddiol wedi argyhoeddi darllenwyr y cylchgrawn gwerin fRoots, tra’n arwain yn ogystal at sesiynau byw ar Radio 1.

Daeth Lisa ar draws cerddoriaeth werin trwy gasgliad o recordiau o eiddo rhiant un o’i ffrindiau, ac o ganlyniad aeth ati i chwilio am ei ffidil nad oedd wedi gweld golau dydd ers gwersi cerddoriaeth yn yr ysgol, a daeth yn fynychwraig cyson yn sesiynau Gwyddelig yn Ne Llundain. Cyn hir daeth cynigion i chwarae sioeau mewn gwyliau, ond bu rhaid iddi gymryd toriad estynedig o gerddoriaeth o ganlyniad i salwch. Nawr mae wedi dychwelyd at y gerddoriaeth bu’n ysbrydoliaeth iddi. Ar ôl arbrofi helaeth, aeth i Ysgol Haf a arweiniwyd gan Chris Wood o’r sîn gwerin Seisnig, yn ogystal â chymryd meistr ddosbarth i’r llais gyda’r enwog Shirley Collins. Crisialodd hyn ei syniadau ynglŷn â’i chyfeiriad cerddorol a sylwodd ar dueddiad cryfach tuag at gerddoriaeth werin Seisnig. Wedi ei hysbrydoli gan ei gwaith gyda’r cynhyrchwr roc dylanwadol, Youth, daeth ffrwd o ysgrifennu caneuon gwreiddiol, gyda rhyddhau ei halbwm cyntaf yn dilyn ym Mawrth 2007, sy’n cynnwys ail-drefniant gan Youth o’r gân draddodiadol Blacksmith.

Mae Mojo wedi galw Lisa Knapp ‘a major discovery’. Mae Word yn disgrifio Wild And Undaunted fel ‘the sexiest folk album of the year.’

www.lisaknapp.co.uk

Mwldan 2 Tocyn: £12 (£10)
howthegiraffegothisneckNos Sadwrn 18 Hydref, 1.30 & 4.30yp
TALL STORIES<br>HOW THE GIRAFFE GOT HIS NECK

TALL STORIES
HOW THE GIRAFFE GOT HIS NECK

Ai oherwydd fod ganddo draed drewllyd?

Ych chi erioed wedi meddwl sut cafodd y jiráff ei wddf hir, sut cafodd y llewpard ei smotiau neu sut cafodd yr eliffant ei drwnc? Cewch yr atebion yn y sioe newydd sbon hon gan Tall Stories, y cwmni a gyflwynodd The Gruffalo, The Snow Dragon a Monster Hits.

Mae gwyddonydd athrylith a chwedleuwr ecsentrig yn cyflwyno’u fersiynau ffantastig sydd bron yn hollol gyferbyniol o sut ddaeth rhai anifeiliaid rhyfeddol i fodolaeth – a sut ni ddaeth eraill i fodolaeth o gwbl (fel yr octopws pig hwyaden).

Mae straeon, dwli a jiráff dryslyd iawn yn cyfuno yn y sioe newydd wirion hon i bawb sy’n 4 oed ac yn hŷn...

Previous reviews:
‘A wonderful show, bursting with energy’ Three Weeks ***** on Monster Hits

‘Tall Stories at its finest’ The List ***** on The Snow Dragon

‘An absolute delight’ The Scotsman ***** on The Gruffalo

Mwldan 2 Tocyn: £6 (£5)
llyfrmawryplantbachDydd Mercher 22 Hydref, 10.00yb & 1.15yp, Dydd Iau 23 Hydref, 10.00yb, Dydd Gwener 24 Hydref, 1.00yb & 7.00yh, Dydd Sadwrn 25 Hydref, 2yp
LLYFR MAWR Y PLANT

LLYFR MAWR Y PLANT

CYD-GYNHYRCHIAD THEATR BARA CAWS | THEATR GWYNEDD | GALERI CAERNARFON

Bydd cyfle i gynulleidfaoedd hen ac ifanc fwynhau sioe deuluol i’w chofio drwy dymor yr hydref eleni wrth i Theatr Bara Caws, ar y cyd gyda Theatr Gwynedd a Galeri, gyhoeddi’r newyddion cyffrous fod sioe gerdd o un o hoff lyfrau plant Cymru ar y gweill.

O Siôn Blewyn Coch i Wil Cwac Cwac, Ifan Twrci Tenau a holl griw swnllyd y buarth, mi fydd y sioe yn frith o gymeriadau’r llyfrau gwreiddiol gan Jenny Thomas a JO Williams, a gall cynulleidfaoedd ddisgwyl digon o ganu a dawnsio yn ogystal ag actio. Yr awdur Gareth F Williams sy’n gyfrifol am y sgript, gyda Catrin Edwards yn cyfansoddi’n arbennig ar gyfer y sioe, Emyr Rhys yn gyfarwyddwr cerdd a Cai Tomos yn cynnig ei arbenigedd mewn dawns ar y coreograffi.

Meddai Tony Llewelyn, cyfarwyddwr y sioe ar ran Theatr Bara Caws, “Mae’r sioe’n gyfle gwych i gyflwyno rhan bwysig o atgofion a gorffennol cymaint ohonom ni i genhedlaeth newydd. Mae’r llyfr ei hun mor ddoniol a bywiog, â’r cymeriadau’n neidio oddi ar y dudalen. All rhywun ddim peidio â bod yn gynhyrfus iawn am y peth!”

Tocyn: £8 (£6)
genticorumNos Sul 26 Hydref, 7.30yp
GENTICORUM

GENTICORUM

Mae Genticorum yn cyflym ddatblygu i fod yn un o grwpiau mwyaf blaengar y diwylliant cerddorol yng Nghwebec, gyda’u gwreiddiau’n ddwfn yn eu mamwlad. Mae’r triawd traddodiadol egniol a gwreiddiol hefyd yn ymgorffori dynamiaeth diwylliannau gwerin Gogledd America ac Ewrop yn eu miwsig.

Gan gydblethu ffliwt bren, ffidil, gitâr acwstig, telyn fach, bas ac offerynnau taro â throed gyda harmonïau lleisiol cryf, maent yn cynnig asiad o ganeuon ac alawon traddodiadol yn ogystal â chyfansoddiadau gwreiddiol. Mae eu sain, synnwyr digrifwch a’u presenoldeb ar y llwyfan yn sicrhau eu bod yn plesio’r dorf pob tro. Ers iddynt gychwyn yn 2000, mae Genticorum wedi llwyddo i ennill lle cadarn ar y sîn gwerin a cherddoriaeth byd, yn chwarae yng ngwyliau, cyngherddau a dawnsiau.

Yn 2005, enillodd eu halbwm, Malins Plaisirs, Wobr Gerddoriaeth Werin Canada yng nghategori Ensemble Orau, a chafodd ei enwebu ar gyfer JUNO (Canada) a Gwobrau Felix (Québec) Awards yn 2006. Mae eu llwyddiannau yn Lloegr, yr Alban, Sgandinafia, yr Almaen, Malaysia, Israel, yr Aifft, Awstralia, Seland Newydd yn darogan yn dda ar gyfer gyrfa rynwladol disglair i’n bons vivant drygionus.

‘Wonderful rhythmic flare ... a very full and glorious noise' - Sing Out!

Tocyn: £14 (£12)
thebibleNos Fawrth 28 Hydref, 7.30yp
THE BIBLE: THE COMPLETE WORD OF GOD (abridged)

THE BIBLE: THE COMPLETE WORD OF GOD (abridged)

REDUCED SHAKESPEARE COMPANY

Mae Dydd y Farn arnom wrth i dri guerrilla diwylliannol y Reduced Shakespeare Company gosod eu pryd craff ar Y Beibl. Mae’n siŵr daw’r mellt i ddilyn yn fuan! Ydy, mae’n siwrnai hoffus ac amharchus o ddail ffigys i’r Farn Olaf wrth i’r bechgyn taclo’r cwestiynau diwinyddol mawr i gyd: A oedd gan Adda ac Efa fogeiliau? A oedd Moses wir yn edrych fel Charlton Heston? A pham nad yw’r gair “phonetic” yn cael ei sillafu fel mae’n synio?

Os ych chi’n Gatholig, yn Anffyddiwr, yn Fwslim, yn Iddew, yn Brotestant neu yn credu yn y Bwci Bo, cewch eich diddanu’n llwyr gan siwrnai’r RSC trwy grefydd yr oes a fu. Cofiwch... mae rhywun yn gwylio.

"This is a slick, fast, very funny show... skilled performers with immaculate, sassy American timing." London Sunday Times

Mwldan 2 Tocyn: £15 (£13)
|
|
|
|
gwybodaeth
|
|
|