|
WRTH FY MODD
Sara Davies, Maura Hazelden, Maria
Sears and Rosalind Sharples
Dydd Llun 13 Rhagfyr
2004 - Dydd Iau 6 Ionawr 2005
Rosalind Sharples
Datganiad yr Artist :
Mae’r sioe hon yn cyfuno gwahanol themâu sydd hefyd
yn dwyn cyswllt â’i gilydd ac sy’n rhan o’r
cysyniad cyffredinol o deithio. Rwy’n mwynhau cerdded drwy
gefn gwlad yr ardal hon, ac yn teimlo, fel y rhan fwyaf o bobl,
fod hyn yn rhoi cyfle da i mi fyfyrio. Mae’r daith yn troi’n
llwybr drwy’r meddwl yn ogystal â thrwy’r dirwedd.
Am hynny, mae geiriau cerddi i’w gweld o gwmpas ymyl nifer
o’r darluniau. Nid yw’r geiriau a’r delweddau
yn darlunio’i gilydd, cydgyswllt yn unig sy’n eu dwyn
ynghyd. Maent yn ychwanegu at ei gilydd yn hytrach nag yn rhoi gorchmynion
i’w gilydd.
Mae rhai o’r darluniau yn fwy llythrennol na’i gilydd.
Mae pob un ohonynt yn deillio o arsyllu ar dirweddau lleol, ond
mae rhai yn cynrychioli un foment mewn amser tra bo’r lleill
yn cynrychioli profiad mwy cyfansawdd o gerdded drwy dir, môr
ac awyr.
Felly, gydag un eithriad, mae’r sioe yn archwilio teithiau
drwy’r bydoedd mewnol ac allanol rydym ni’n byw ynddynt,
y rhyngweithio rhwng yr elfennau a sut y mae’r rheiny yn cyfuno
yn ein meddyliau wrth i ni gerdded gan lunio patrymau o argraffiadau
ac atgofion. Yr unig eithriad yw’r ddelwedd o fam a phlentyn
(Dawel Nos, Sanctaidd Nos). Rwyf wedi cynnwys y darlun hwn oherwydd
dyma bartner y ddelwedd sy’n darlunio’r cwpl ar y ffordd
(Gwisgai Joseff ‘Sgidiau Glaw Gwyrdd). Rhain yw fy mhaentiadau
Nadolig ond yn fy stori Nadolig rwy’n dathlu sancteiddrwydd
taith y naill gwpl a’r llall drwy eu tirwedd gyfarwydd eu
hunain; a phrofiad pob mam wrth iddi garu ei phlentyn. Mae hon yn
thema barhaus yn fy ngwaith, sef dathlu’r cysegredig yn ein
bywydau cyffredin.
Ceir arddangosfa o’m gwaith hefyd mewn Sioe Nadolig yng Nghanolfan
y Celfyddydau, Abergwaun. Mae’r gwaith sydd yno yn cydymdeimlo
â’r themâu sy’n cael eu harchwilio yn yr
arddangosfa hon.
Sara Davies
Datganiad yr Artist:
Cefais fy ngeni yn Sir Benfro, a dychwelais i Dyddewi bedair blynedd
yn ôl ac yno rwy’n byw ac yn gweithio bellach.
Y traethau lleol sy’n amgylchynu penrhyn Sir Benfro fu’n
gyfrwng i ysbrydoli’r lluniadau hyn. Defnyddiais bastel meddal
fel fy mhrif gyfrwng ar gyfer y morluniau er mwyn ail-greu symudiad
cynnil a thryleuedd y dwr. Mae gwead melfedaidd y pastelau yn eu
gwneud yn ddelfrydol i’w cyfuno er mwyn creu dyfnder a llewych
lliwiau cyfnewidiol y môr ac er mwyn ceisio dal yr elfennau
naturiol - gwawl a gwynt - ar wyneb y lli.
Maria Sears
Artist's Statement
My drawings are entwined with my words, my thoughts, my music, my
plants, my delight.
I have been working as an artist for many years. I am unsure about
categorizing myself in metal, but recently I find drawing and painting
express my ideas well.
I like to work unchecked, so as not to begin with a fixed image.
This work springs from me. I am fascinated by unexpected events
and meetings and how they come to add so much to our lives. Even
in our apparent bleakness. It is a playful place.
Maria Sears
Datganiad yr Artist
Mae fy lluniadau wedi’u cordeddu gyda’m geiriau, fy
meddyliau, fy ngherddoriaeth, fy mhlanhigion, fy hyfrydwch.
Bûm yn gweithio fel artist ers nifer o flynyddoedd. Rwyf
yn ansicr ynglyn â chategoreiddio fy hunan mewn metal, ond
yn ddiweddar rwy’n teimlo fod lluniadu a phaentio’n
cyfleu fy syniadau’n dda.
Rwy’n hoffi gweithio’n ddirwystr, fel na fyddaf yn dechrau
gyda delwedd benodol. Mae’r gwaith hwn yn deillio ohonof i.
Rwy’n cael fy swyno gan ddigwyddiadau a chyfarfodydd annisgwyl
a sut y mae pethau o’r fath yn ychwanegu gymaint at ein bywydau.
Hyd yn oed yn ein llymdra ymddangosiadol, mae hwn yn lle chwareus.
Maura Hazelden
Gair Am Fy Ngwaith
Mae’n well gen i beidio defnyddio geiriau i roi esboniad
rhy uniongyrchol ar fy ngwaith am fod hwnnw, wedi’r cwbl,
yn weledol ac yn gweithio mewn dull mwy haniaethol nag iaith gan
mwyaf. Ond efallai ei fod yn fuddiol sôn am rai o’r
mannau cychwyn yng nghyswllt fy ngwaith. Mae’n wir bod gennyf
‘ddatganiad artist’ ond mae hwnnw, efallai, braidd yn
haniaethol ac yn fwy atgofus nag esboniadol!
Bu atgof a dirnadaeth yn y cartref/tirwedd, rheolaeth a threfn
(a’r hyn a drosgyfeiriwyd), teithio, cnawdolrwydd mewn pethau
bob dydd a’r benywaidd yn brif themâu yn fy ngwaith
ers rhai blynyddoedd. Mae’r arddangosfa hon yn dangos dwy
elfen o’m gwaith na fyddaf yn eu harddangos gyda’i gilydd
yn aml iawn: tirlun a’r cartref. Yn y lluniau tirwedd rwy’n
edrych ar lecyn y bûm yn ymweld ag e’n rheolaidd hyd
nes i fi gyrraedd naw oed. Ers hynny, mae wedi llanw fy nghof a’m
breuddwydion. Dychwelais yno ym mis Medi 2003. Roeddwn yn awyddus
i wybod pa mor dda roeddwn i’n ei gofio a beth oedd arwyddocâd
y lle i fi. Fel yn achos breuddwydion, does dim modd hoelio’r
cof; rhaid caniatáu iddo grwydro er mwyn iddo gyflawni ei
swyddogaeth. Weithiau bydd bylchau enfawr yn y cof; bydd yr atgof
am un peth yn eglur, tra bydd rhywbeth sy’n eistedd wrth ei
ymyl yn angof. Pa faint o’n cof sy’n eiddo i ni? Fyddwn
ni’n ychwanegu rhyw bethau wrth i ni glywed sôn gan
eraill, am ddigwyddiad yn ystod cyfnod plentyndod, dyweder, ac yn
defnyddio ffotograffau i ychwanegu at yr atgof, yna tybio bod y
pecyn cyfan yn deillio o’r profiad gwreiddiol? Yna, dyna i
chi hiraeth, sydd, rwy’n tybied, yn aml yn gof diffygiol,
ac yn un detholus iawn, yn ddi-os; yn aml yn dwyn i gof arogleuon,
gweadau, fflachiadau o atgofion wrth edrych ar wrthrych neu ddelwedd
o’r gorffennol. Mae’n ymddangos fel atgof dychmygus
o fywyd fel ein teidiau a’n neiniau, o’r cyfnod y cawsom
ein geni iddo ond na fu i ni erioed ei brofi.
Byddaf yn defnyddio pa bynnag gyfrwng sydd fwyaf priodol yn fy
marn i er mwyn archwilio fy syniadau (ffotoweledol, perfformiad/celfyddyd
byw, paentiad, collage, tecstilau). Byddaf yn llenwi nodiadur gydag
ysgrifen a lluniadau. Rwy’n defnyddio’r camera. Mae
gennyf ddiddordeb mewn ffotograffiaeth fel cyfrwng gan fod hon yn
aml yn ffordd o gael cipolwg ar ein hatgofion; ydyn ni’n cofio’r
fan neu’r ffotograff o’r lle arbennig hwnnw? Ydyn ni’n
cofio amser a’r hyn sydd i’w weld o boptu’r ffotograff?
Mae ffotograffau’n ymddangos mor gyfarwydd a dibynadwy. Ac
rwy’n mwynhau’r broses ffotograffig: y golau er mwyn
creu’r ddelwedd, y graen, argraffu a thrin a thrafod y papur.
Byddaf yn ail-dynnu ac yn ail-dynnu’r ffotograffau eu hunain.
Mae’r broses wybyddol o ddosbarthu yn creu trefn a diffiniad.
Wedi hynny, mae’n symud ymlaen at reoli a defodoli.
Trefn ddomestig y cof
Yr atgof am drefn ddomestig
Trefn y cof domestig
1 trosgyfeirio
ffrwyno
rheoli
darostwng
mygu
tawelwch
disylwedd
2 trefn
trefnu
llunio
trefnu
dosbarthu
twtio
cynnwys
3 diflanedig
darfodedig
dros dro
byrhoedlog
gwibiog
anghyffwrddadwy
dychmygol
4 rhoi ffurfiad trefnus, cyfundrefnu. Rhoi trefn ar faterion (person
arall), gwneud trefniadau ar gyfer (person), trefnu neu hyfforddi,
darparu, bod yn gyfrifol am. Y cyflwr hwnnw lle y bydd pob rhan,
uned ac ati yn ei lle priodol; taclusrwydd, trefn benodol, olyniaeth.
Amserau Agor yr Oriel
10yb - 8yh Dydd Llun - Dydd Sul
Arddangosfeydd
y Gorffennol a'r Dyfodol | Arddangosfeydd
Presennol | Polisi
y Celfyddydau Gweledol | Gyfarwyddiadaus
Am mwy o wybodaeth, gofynnwych yn y swyddfa docynau
Oriel Mwldan Patron Mary Lloyd Jones
|